Gwybodaeth |
Gobeithiwn y bydd y gwybodaeth yma o gymorth i chi. Cyflwynir manylion am nifer o bethau sydd o bwys i gynorthwyo trefniadaeth dydd i ddydd yr ysgol a’r modd y gallwch chi atgyfnerthu ein gwaith gyda’ch plentyn.
Mae lleihau triwantiaeth yn un o nodau’r Llywodraeth ac mae disgwyl i ysgol wybod y rheswm dros bob absenoldeb. Rydym yn disgwyl cael gwybod cyn 9 o’r gloch os nad yw eich plentyn yn mynd i fod yn yr ysgol y diwrnod hwnnw – gweler Atodiad 7 – Tud 29 am fwy o wybodaeth am hyn.
• Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd wedi bod yn bwysig erioed. Heb hyn, bydd ymdrechion yr athrawon a’r ysgol yn ofer.
• Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar rieni i anfon eu plant i’r ysgol yn rheolaidd. Mae rhieni sy’n methu a chyflawni’r dyletswyddau yma yn wynebu cael eu herlyn. Mae cyfrifoldeb rhieni yn ymestyn i sicrhau fod eu plant yn cyrraedd yr ysgol mewn pryd, yn daclus, ac mewn cyflwr i ddysgu.
• Rhaid i’r ysgol ofyn am gymorth Swyddogion Lles Addysg a hysbysu’r Awdurdod Addysg leol pan yw presenoldeb afreolaidd disgybl yn achosi pryder.
Mae absenoldebau yn cael eu gosod mewn dau gategori – AWDURDODEDIG ac ANAWDURDODEDIG.
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o ABSENOLDEBAU AWDURDODEDIG – gwaeledd, apwyntiadau meddygol neu ddeintyddol, a mynychu gŵyl grefyddol y mae rhieni’r disgybl yn dilyn y grefydd honno.
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o ABSENOLDEBAU ANAWDURDODEDIG – siopa yn ystod oriau ysgol, cyfrifoldebau cartref, aros adref i warchod, gwyliau estynedig yn ystod tymor ysgol.
• Mae’r cofrestri’n cael eu cau am 9.00 yn y bore. Rhaid i unrhyw blentyn sy’n cyrraedd yn hwyr fynd i weld yr ysgrifenyddes; cedwir cofnod o blant sy’n cyrraedd ar ôl 8.45 o’r gloch y bore. Cyfrifir cyrraedd ar ôl cyfnod cofrestru fel absenoldeb anawdurdodedig.
• Cyn trefnu gwyliau ar adeg gwyliau’r ysgol dylai rhieni gael caniatâd y Llywodraethwyr i’w plentyn fod yn absennol o’r ysgol. Ceir ffurflen i wneud cais am fynd ar wyliau o’r fath gan yr ysgol.
Byddwn yn gadael i chwi wybod pa ddiwrnod/ddyddiau y bydd eich plentyn yn cael gwers addysg gorfforol. Ar gyfer hyn, bydd angen Crys T, trowsus byr a thracwisg (gaeaf yn unig).
Bydd plant yn gweithio’n droednoeth yn y neuadd, ond gall plentyn sydd ag anhwylder ar y croen wisgo pympiau ysgafn. Yn yr haf bydd gwersi yn cael eu cynnal ar y buarth a bydd angen pymps neu drainers ar gyfer y tymor hwn. Gellir gwisgo hen drainers neu esgidiau pêl droed i fynd ar gae y pentref (Adran Iau yn unig). Mae newid ar gyfer addysg gorfforol yn rhan bwysig o addysg plentyn.
Os yw disgybl yn dymuno cael ei esgusodi o wersi ymarfer corff am resymau meddygol, rhaid iddo gael nodyn gan ei riant (cais dros-dro) neu dystysgrif feddygol (am gyfnod estynedig neu barhaol). Os yw plentyn yn anghofio ei ddillad addysg gorfforol disgwylir iddo/iddi ddefnyddio dillad sbâr o’r ysgol, neu gall y babanod ddewis fod yn eu dillad isaf i wers yn y neuadd.
GWNEWCH YN SIWR FOD ENW EICH PLENTYN AR BOB DILLEDYN, OS GWELWCH YN DDA
Yn unol â’u dyletswydd statudol, mae’r Corff Llywodraethol wedi mabwysiadu Polisi Addysg Rhyw a Pherthnasoedd sy’n datgan y dylai addysg rhyw roi sylw dyledus i agweddau moesol ac y dylai ganolbwyntio ar rinweddau a manteision eglur bywyd teuluol cadarn.
Cyflwynir addysg rhyw a pherthnasoedd fel rhan o addysg bersonol, cymdeithasol a moesol y plentyn fel bod rhywioldeb yn cael ei adnabod fel priodwedd naturiol a chyffredin i bawb gan, ar yr un pryd, sylweddoli bod iddo oblygiadau personol, cymdeithasol a moesol.
Mae gan rieni hawl i eithrio eu plant o wersi addysg rhyw ffurfiol a gwneir pob ymdrech rhesymol i barchu’r hawl hwnnw, fodd bynnag mae’n anorfod y bydd cwestiynau ar rywioldeb yn codi’n naturiol o fewn gwaith dydd i ddydd y dosbarth a hynny heb eu rhagweld e.e anifail anwes yn cael rhai bach. Os nad yw rhieni’n fodlon i’w plant dderbyn gwybodaeth mewn sefyllfaoedd o’r fath, dylent drafod y mater gyda’r Pennaeth a fydd yn rhoi ystyriaeth i’r hyn sy’n ymarferol bosibl yng nghyd-destun yr hyn sy’n ddisgwylieidg i’r ysgol gyflwyno o fewn y cwricwlwm, ac mewn gwersi gwyddoniaeth yn benodol.
Gellir gweld copi o’r Polisi cyfan yn yr ysgol.
Rhaid i oedolyn ddod i gasglu pob plentyn sy’n y Babanod. Cofiwch roi gwybodaeth i ni yn yr ysgol, yn ogystal ag i’ch plentyn, os bydd unrhyw newid yn y trefniadau arferol ar gyfer codi plant o’r ysgol. Pan fydd teuluoedd yn chwalu, ac un o’r rhieni’n cael gofal dros y plant, mae’n bwysig ein bod yn cael gwybod am y trefniadau er mwyn osgoi sefyllfa annifyr.
Ni ellir gadael i blentyn fynd o’r ysgol yn gynnar oni bai fod rhiant yn dod i’w nôl neu bod cais ysgrifenedig yn cael ei dderbyn yn gofyn i ni anfon y plentyn adref ar amser penodol.
AROLYGIAD GAN ESTYN
"Arolygwyd Ysgol Dolbadarn fel rhan o raglen genedlaethol o arolygiadau ysgolion. Diben arolygu yw nodi nodweddion da a diffygion mewn ysgolion er mwyn iddynt wella ansawdd yr addysg a gynigir a chodi’r safonau a gyflawnir gan eu disgyblion. Bwriedir i arolygu pob ysgol o fewn cylch chwe blynedd hefyd i roi mwy o wybodaeth i rieni am ysgol eu plentyn.
Cynhaliwyd yr arolygiad o Ysgol Dolbadarn rhwng 20/11/06 a 22/11/06. Comisiynwyd yr arolygiad, gan dîm annibynnol o arolygwyr, a arweinwyd gan Wil Williams. Comisiwynwyd yr arolygiad gan Estyn, sef corff statudol sy’n annibynnol, ond a ariennir gan, Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd yn ofynnol i’r tîm adrodd ar y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol, ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth a’r cyfraniad a wneir gan yr ysgol at ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol ei disgyblion."
I weld yr adroddiad i gyd ........ cliciwch yma
Mae asesu’n broses barhaus sy’n digwydd o ddydd i ddydd yn yr ysgol. Bydd yr athrawon yn asesu disgyblion yn anffurfiol drwy’r amser – gan gofnodi pethau arwyddocaol yn unig. Ar ddiwedd blwyddyn ysgol bydd yr athrawon yn crynhoi’r wybodaeth a’i throsglwyddo i athro/athrawes nesaf y plentyn.
Bydd plant 4 oed yn cael eu hasesu’n fuan ar ôl iddynt ddechrau’r ysgol yn llawn amser i roi i’r ysgol yr Asesiad Sylfaen, sef amcan o allu plentyn a’i anghenion unigol. Bydd rhieni yn derbyn gwybodaeth am hyn yn Nosweithiau Agored tymor yr hydref.
Cynhelir tair Noson Agored bob blwyddyn pan fydd rhieni yn derbyn gwybodaeth am gynnydd, ymdrech a datblygiad personol eu plentyn, ynghyd â thargedau ar gyfer gwelliant. Ar ddiwedd tymor yr haf dosberthir Adroddiad Blynyddol i bob plentyn yn adrodd ar waith y flwyddyn ym mhob pwnc, ar bresenoldeb ac ar ymarweddiad.
Ar ddiwedd Y Cyfnod Sylfaen (Blwyddyn 2) a Chyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 6) pennir lefel cyrhaeddiad pob plentyn yn y pynciau craidd. Bydd y lefelau hyn yn cael eu cynnwys efo’r Adroddiad Blynyddol. Ar ddechrau Blwyddyn 2 a Blwyddyn 4 bydd rhieni’n derbyn gwybodaeth am dargedau eu plentyn, sef y lefel y mae’r ysgol yn disgwyl iddo/iddi gyrraedd.
Trosglwyddir asesiadau diwedd Blwyddyn 6 i’r Ysgol Uwchradd fel bod dilyniant yn addysg y plentyn.
IAITH
Yn unol â Pholisi Iaith Awdurdod Addysg Gwynedd rhoddir y pwyslais a gyflwyno’r Gymraeg yn y blynyddoedd cyntaf ond gan roddi sylw cynyddol i’r Saesneg fel yr â’r plentyn yn hŷn. Y nod yw cael pob disgybl yn gwbl ddwyieithog erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol.
Rhoddir pwyslais ar hybu iaith ar draws y cwricwlwm o ran gwrando yn astud, siarad yn eglur a phriodol, darllen yn ystyrlon er gwybodaeth a phleser, ac ysgrifennu i wahanol ddibenion. Caiff y plant eu hannog i ddarllen amrediad o lyfrau ffeithiol a ffuglen ac rydym yn gofyn am gefnogaeth rhieni i sicrhau bod plant yn darllen yn rheolaidd gartref. Cyflwynir rhaglen cyd-ddarllen yr ysgol i rieni pan fydd eu plant yn y tymor olaf yn y Meithrin.
Pan ddaw plentyn a elwir yn hwyrddyfodiad i mewn i CA2 yn yr ysgol, h.y. plentyn nad yw’n siarad Cymraeg o gwbl, yna cynigir cwrs brys o dymor iddynt yn y ‘Ganolfan Hwyrddyfodiad’ yng Nghaernarfon. Yno bydd y plentyn yn rhan o grŵp dysgu bychan a bydd yn cael ei ddysgu gan arbenigwyr mewn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Yn ystod y tymor y bydd y plant yn ei dreulio yn y ganolfan byddant yn dilyn y cwricwlwm ysgol arferol yn ogystal a chael dysgu Cymraeg. Cludir y plant i’r ganolfan yn rhad ac am ddim.
Yn ddiweddar mae’r ysgol wedi dechrau cyflwyno gwersi Ffrangeg i blant hynaf yr ysgol.
MATHEMATEG
Mae cynllun mathemateg yr ysgol hyn yn seiliedig ar y ‘Strategaeth
Rhifedd Cenedlaethol’. Gwneir peth defnydd o gynlluniau masnachol,
ond nid ydym yn cadw’n gaeth at un cynllun yn benodol.
Mewn mathemateg rhoddir y pwyslais mwyaf ar gael disgyblion i ddodd i ddeall a defnyddio rhif a gwerth lle. Cyflwynir hefyd waith ar fesur, amser, siapiau a chasglu a dehnongli data. Mae yna bwyslais mawr ar waith ymarferol, ar fathemateg pen ac ar gymhwyso mathemateg i sefyllfaeodd bob dydd - gan gynnwys mathemateg ymchwiliol.
Rydym yn gweld gwerth mawr mewn deall a dysgu tablau, hebddynt nid â’r plant ymhell iawn gyda’u gwaith. Un o amcanion mewn mathemateg yw cael plant i feddwl yn drefnus a rhesymol ac y mae cofnodi gwaith yn daclus a threfnus, felly, yn hanfodol i’r gwaith.
GWYDDONIAETH
Cyflwynir y gwaith gwyddoniaeth fel rhan o thema’r dosbarth.
Drwy waith gwyddoniaeth disgwylir i’r plentyn ¬ddatblygu sgiliau
arsylwi, rhoi cynnig ar ddehongli yr arsylwadau a chreu
arbrofion i bwyso a mesur damcaniaeth. Bydd gwaith
paratoi manwl i sicrhau fod y gwaith a gyflwynir o fewn themâu’r
dosbarthiadau yn ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Y mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn rhoddi sylw i gyd-ddibyniaeth organebau, y Ddaear gynaliadwy a sut mae pethau’n gweithio.
TECHNOLEG GWYBODAETH
Mae hwn yn faes sydd yn datblygu’n gyflym iawn yn ein hysgolion ac mae’r ysgol yn gweithio’n galed tuag at ymateb i her y datblygiadau hyn. Anelwn at gael ein plant o oedran gynnar i fod yn hyderus yn eu hymdriniaeth â chyfrifiaduron ac i adeiladu ar hyn drwy gydol eu gyrfa yn yr ysgol.
Yn ogystal â defnyddio cyfrifiaduron i brosesu geiriau, i dynnu llun neu i lunio tablau a graffiau, gwneir defnydd cynyddol ohono fel ffynhonnell gwybodaeth, gan gynnwys mynediad dan reolaeth i’r We ac i E-bostio. Mae Technoleg Gwybodaeth hefyd yn ymwneud â defnyddio a rheoli offer technegol arall hefyd, megis recordyddion sain, peiriant fideo, camerau digidol, camerau fideo a chrwydryn llawr.
DYLUNIO A THECHNOLEG
Mae’r maes hwn yn datblygu gallu’r disgyblion i gynllunio a gwneud gwahanol arteffactau, a thros amser byddant yn cael y cyfle i weithio gydag amrediad o ddefnyddiau, megis papur, cerdyn, pren, tecstiliau a bwyd.
Bydd y plant hefyd yn cael cyfle i adeiladu modelau gyda setiau adeiladau a’u rheoli gyda chyfrifiadur. Eto bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o thema a fydd yn ymdrin â nifer o wahanol agweddau o’r cwricwlwm.
HANES A DAEARYDDIAETH
Fel rhan o’r gwaith thema eto y cyflwynir hanes a daearyddiaeth. Mae’r pynciau hyn yn ymwneud â deall y byd ddoe a heddiw. Dechreuir bob maes gydag astudiaeth o’r lleol ac yna edrych ar gyd-destunau ehangach.
Drwy astudiaethau daearyddol ceisir cyflwyno fframwaith o wybodaeth am leoliad a lleoedd ac am nodweddion pwysig cyfundrefnau ffisegol y Ddaear ac effaith dyn ar ei amgylchfyd. Rhoi ymdeimlad o’r gorffennol a ffordd o fyw yw ein hamcan wrth gyflwyno hanes i’n plant. Ceisir datblygu ynddynt ymdeimlad o amser, dilyniant, newid a pharhad, a chronoleg i’w cael i sylweddoli sut mae’r gorffennol wedi ffurfio’r gymdeithas a’r byd y maent yn rhan ohonno a hefyd i gael perspectif o’r presennol - ei werthoedd, ei arferion a’i gysylltiadau.
ADDYSG GREFYDDOL
Wrth gyflwyno Addysg Grefyddol ein hamcan yw i arwain y plant i
werthfawrogi dimensiwn crefyddol bywyd a deall yr hyn y mae cymryd
crefydd o ddifrif yn ei olygu. Y mae’r addysg grefyddol a gyflwynir yn
seiliedig ar Faes Llafur Cytunedig yr Awdurdod Addysg. Yn ein diwylliant
ni, canolbwyntir yn bennaf ar Gristnogaeth, ond rhoddir sylw hefyd i
grefyddau eraill y byd gyda’r nod o ddatblygu parch tuag at y rhai sy’n eu coleddu.
CERDDORIAETH
Mae i gerddoriaeth le amlwg yn nhraddodiadau a bywyd Cymru ac anelwn at gael y plant yn ymwybodol o hynny. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau a chysyniadau cerddoriaeth drwy brofiad o
berfformio, gwrando a chyfansoddi.
Caiff y disgyblion wrando ar ystod o gerddoriaeth a’u hannog i ymateb yn bersonol iddo. Ystyrir bod gan gerddoriaeth gyfraniad gwerthfawr i'w wneud i weithgareddau cymdeithasol yr ysgol ac i gyfnodau o addoli ar y cyd.
CELF
Wrth gyflwyno’r maes hwn cred yr ysgol ei bod yn bwysig rhoi cyfle i’r plant weithio gyda llawer o wahanol ddeunyddiau ac mewn gwahanol ddulliau. Anelir at hybu creadigedd yr unigolyn a phwysleisir parchu gwaith ac ymdrechion eraill.
Caiff disgyblion gyfle i astudio gwaith arlunwyr enwog gan gynnwys rhai o Gymru.
ADDYSG GORFFOROL
Wrth gyflwyno’r pwnc hwn - sy’n statudol i bob plentyn yn yr ysgol - ceisir
gynllunio rhaglen ddysgu sy’n arwain at weithgareddau a phrofiadau egniol,
pwrpasol a rheolaidd sy’n galluogi pob plentyn i brofi mwynhâd a llwyddiant.
Mae’r ysgol yn ffodus o gael neuadd ac offer addas i gyflwyno gymnasteg
a dawns i’r plant a dau fuarth eang i gyflwyno gemau awyr agored. Rydym yn
defnyddio caeau chwarae’r pentref ar gyfer rhai chwaraeon, yn cynnwys cyfeiriannu a gweithgareddau datrys problemau.
Trefnir cwrs o naw wythnos o wersi nofio ym mhwll nofio Caernarfon i flynyddoedd 3, 4, 5 a 6. Anelir at gael pob plentyn yn nofio 25m cyn diwedd Blwyddyn 6. Trefnir cyfnod cyffelyb o wersi tennis yn flynyddol hefyd i’r un disgyblion.
Nodau’r ysgol o ran chwaraeon a darpariaeth chwaraeon:
• Rhoi cyfle i’r plant brofi llwyddiant mewn ystod eang o chwaraeon.
• Hybu’r plant i fod yn hyderus yn eu gallu athletaidd a’u defnydd o offer chwaraeon.
• Parhau i gystadlu mewn gweithgareddau dalgylchol a sirol a cheisio ehangu hynny i gystadlaethau newydd pan mae’n bosibl.
• I ddarparu adnoddau ar y ddau fuarth sy’n galluogi plant i fod yn weithredol yn ystod cyfnodau egwyl ac yn hybu rhaglen iechyd a ffitrwydd yr ysgol.
Disgwylir ymddygiad da ar y bws ysgol. Gall disgyblion sy’n camymddwyn gael eu gwahardd rhag defnyddio’r bws.
Mae’r Corff Llywodraethol, yn unol â gofynion Deddf Addysg 1988, yn derbyn na ellir codi tâl am y canlynol:
• mynediad i’r ysgol
• yr addysg a roddir yn ystod oriau’r ysgol
• defnyddiau ac offer ar gyfer gwersi yn ystod oriau ysgol
• gweithgareddau a gynhelir yn ystod oriau ysgol
Rhagwelir y trefnir rhai teithiau yn ystod oriau ysgol na fydd yn rhan hanfodol o’r gwaith cwrs, ond a fydd yn brofiad llesol i’r disgyblion. Yn ôl y Ddeddf, er nad oes gan ysgol hawl i godi tâl am deithiau o’r fath, mae ganddi hawl i:
• ofyn am gyfraniad gwirfoddol tuag at gost o drefnu’r fath daith
• ofyn i asiant allanol i drefnu’r daith
Awdurdodir y Pennaeth i ofyn am daliadau ar gyfer y canlynol:
• gwersi cerdd unigol
• gweithgareddau a gynhelir y tu allan i oriau’r ysgol yn ôl amodau’r Ddeddf
• mewn achosion lle achosir difrod i unrhyw ran o adeiladau’r ysgol yn dilyn ymddygiad disgyblion
• pan fydd disgybl yn colli neu’n difrodi llyfr, cyfarpar neu eiddo sy’n perthyn i’r ysgol, i aelod o staff neu ddisgybl arall
Mae hawl gan y Pennaeth i ddileu gweithgaredd a drefnwyd os yw cyfraniadau isel yn golygu colled sylweddol i’r ysgol.
Nid oes gan yr ysgol gysylltiadau uniongyrchol na ffurfiol ag unrhyw enwad crefyddol penodol, ond gwahoddir y gweinidogion ac offeriaid lleol i’r ysgol yn rheolaidd i arwain addoli ar y cyd.
Ceir cyfnod o addoli ar y cyd yn ddyddiol; ar lefel ysgol gyfan ar bob dydd Llun a Gwener ac yn y dosbarthiadau ar ddyddiau eraill. Y ffydd Gristnogol a gyflwynir yn bennaf yn yr addoli hwn a chaiff disgyblion gyfle i gymryd rhan yn rheolaidd.
Mae gan rieni hawl i ofyn i’r ysgol eithrio eu plant o wersi addysg grefyddol a chyfnodau o addoli ar y cyd. Dylai rhieni sy’n dymuno gwneud hynny ddod i drafod y mater gyda’r Pennaeth.
Ni chaniateir i neb ddod â chŵn (ac eithrio cŵn tywys) ar dir yr ysgol wrth nôl a danfon plant nac i unrhyw weithgareddau a drefnir gan yr ysgol.
Mae’r Awdurdod Addysg Lleol, yn unol â gofynion yr Ysgrifennydd Gwladol, dan Adran 23 o Ddeddf Diwygio 1980 wedi sefydlu trefn i ystyried cwynion am y modd y mae cyrff llywodraethu’r ysgolion a’r Awdurdod Addysg yn gweithredu mewn perthynas â chwricwlwm ysgol a materion eraill cysylltiedig. Mae’r drefn hon wedi ei hamlinelli mewn dogfen bwrpasol yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd ar gael yn yr ysgol. Darperir copi’n rhad ac am ddim, yn ôl y gofyn, i unrhyw rieni sy’n dymuno gwneud cwyn dan y trefniadau hyn, a gall yr Awdurdod ddarparu copi mewn iaith heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg os bydd hynny’n angenrheidiol. Pwysleisir, fodd bynnag, y gellir ymdrin â llawer o gwynion yn gyflym ac effeithiol drwy ystyriaeth anffurfiol yn seiliedig ar drafodaethau gyda’r Pennaeth. Hwn yw’r cam rhesymol cyntaf, a bydd y Corff Llywodraethu’n disgwyl bod y cam yma wedi ei gyflawni cyn cyflwyno’r gŵyn yn ffurfiol mewn achosion eithriadol.
Mae’r Corff Llywodraethol hefyd wedi mabwysiadu polisi ynglŷn â’r drefn i’w dilyn pan dderbynir cwynion yn gysylltiedig â’r ysgol.
Ym mhob achos dylid cysylltu â’r ysgol i wneud apwyntiad i drafod unrhyw gŵyn gyda’r Pennaeth yn y lle cyntaf, neu gysylltu â Chadeirydd y Llywodraethwyr os yw’r gŵyn am y Pennaeth.
Nod yr ysgol yw:
• Sicrhau yr un cyfleoedd i’r holl ddisgyblion o ba bynnag gefndir cymdeithasol y dônt, cyfleoedd cyfartal i fechgyn a merched, i blant galluog iawn a phlant llai galluog.
• Meithrin agweddau cadarnahol mewn perthynas â hil a chrefydd a rhyw.
• Osgoi cyflyru ac ystyrdebu, yn enwedig mewn perthynas â’r cwricwlwm.
Mae gan yr ysgol ystod o bolisïau sy’n ymwneud â hyrwyddo cynhwysiad gwahanol ddisgyblion. Mae’r Polisi AAA yn cyfeirio at y trefniadau i hwyluso mynediad i ddisgyblion ag anabledd. Gwneir pob ymdrech i sicrhau nad ydynt yn cael eu trin yn llai ffafriol na disgyblion eraill.
Nod y Gymdeithas yw
i. Rhoi cyfle i rieni a staff gyfarfod er lles y plant a’r ysgol.
ii. I godi arian er mwyn sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer gweithgareddau’r ysgol.
iii. I gefnogi ymdrechion y prifathro a’r llywodraethwyr i sicrhau gwelliannau yn ôl yr angen.
iv. I drefnu cyfarfodydd o ddiddordeb addysgol, diwylliannol neu gymdeithasol ar gyfer aelodau y gymdeithas, a disgyblion.
Anelir at drefnu rhaglen benodol o weithgareddau i bwrpas addysgol a chymdeithasol yn ogystal â chodi arian.
Hyderwn yn fawr y byddwch yn gallu cefnogi’r Gymdeithas.
Disgwylir i’r plant ymddwyn yn barchus a chwrtais bob amser. Mae gan yr ysgol Bolisi ar Hyrwyddo Ymddygiad Da a Disgyblaeth sydd ar gael yn yr ysgol i unrhyw un ei weld.
Mae disgwyl i bob disgybl gyfrannu at greu cymdeithas wâr yn yr ysgol drwy:
• Fod yn feddylgar, yn garedig ac yn foneddigaidd yn ei berthynas â disgyblion eraill, holl staff yr ysgol ac unrhyw ymwelwyr.
• Peidio â gwneud difrod bwriadol nac ymyryd ag eiddo pobl eraill; peidio rhegi na defnyddio iaith anweddus na bod yn anghwrtais ac ateb yn ôl.
• Gwneud pob ymdrech i gadw’r ysgol a’i hamgylchedd yn daclus, rhoi pob ysbwriel yn y biniau, a pheidio ac ysgrifennu ar y waliau.
• Peidio â dod â phethau personol i’r ysgol e.e., teganau oni ofynnir amdanynt gan yr athro/athrawes dosbarth
Mae’r drefn disgyblu yn seiliedig ar bolisi o ganmol a chlodfori yr ymddygiad a ddymunir. Mae pob athro/athrawes yn gyfrifol am ymddygiad ei ddosbarth ei hun, ond os oes angen, gellir cyfeirio disgybl i sylw’r Dirprwy neu’r Pennaeth. Mewn rhai achosion o gamymddwyn, cedwir y plentyn i mewn fel cosb dros amser chwarae. Os bydd sefyllfa yn codi ble bydd plentyn yn camymddwyn yn rheoliadd neu’n ddifrifol, gofynnir i’r rhieni i ddod i mewn i’r ysgol i drafod y mater gyda’r Pennaeth.
Mae’r ysgol yn ceisio dysgu’r disgyblion i wahaniaethu rhwng ffraeo dydd i ddydd rhwng ffrindiau a chyfoedion, a bwlio. Mae bwlio yn weithred fwriadol a bygythiol sy’n gamddefnydd o bwêr. Ni ddioddefir unrhyw fath o fwlio yn yr ysgol. Mae canllawiau wedi’u nodi yn y Polisi Disgyblaeth ac os bydd bwlio’n digwydd yna delir â’r mater yn unol â’r canllawiau hynny.
Mae gan yr ysgol Bolisi Grym Rhesymol sydd i’w weithredu gan staff dan amgylchiadau arbennig er cynnal lefel dderbyniol o ddiogelwch.
Bydd Nyrs yr ysgol a’r Ymwelydd Iechyd yn dod i’r ysgol yn achlysurol, i roi prawf golwg i’r plant ac i drafod efor’ ysgol faterion yn ymwneud â iechyd a glanweithdra. Bydd cynrychiolydd o’r Awdurdod Iechyd yn profi clyw’r plant yn rheolaidd hefyd.
Mae gan yr ysgol Gytundeb Cartref .
Cliciwch yma i gael copi.
Mae’r ysgol yn adeilad di-fwg. Ni chaniateir i neb ysmygu yn yr adeilad nac ar dir yr ysgol ar unrhyw adeg na thra’n gofalu am blant y tu allan i’r ysgol.
Wrth ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth yn yr ysgol mae’r disgyblion yn cael cyfle i ddefnyddio’r Rhyngrwyd. Rhwydwaith byd eang o gyfrifiaduron yw’r Rhyngrwyd sy’n cynnwys miliynau o dudalennau o wybodaeth. Mae defnyddio cyfrifiaduron a chodi gwybodaeth ohono, megis o’r Rhyngrwyd, yn rhan o’r gofynion yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i blant cynradd. Mae llawer o’r wybodaeth yn ddefnyddiol ac yn gymorth i waith y disgyblion ym mhob pwnc yn yr ysgol. Gall y disgyblion hefyd ddefnyddio E-bost i anfon negeseuon at ddefnyddwyr eraill o fewn yr ysgol ac ar draws y byd.
Yn anffodus, fodd bynnag, mae rhywfaint o’r deunydd sydd ar y We Fyd Eang yn anghyfreithlon, yn ffiaidd ac yn anaddas i blant. Mae’r Awdurdod, felly, wedi gosod y rhaglen Cyber Patrol ar y sustem sy’n cysylltu ysgolion â’r Rhyngrwyd. Mae’r meddalwedd yma yn hidlo a rhwystro mynediad i safleoddd mae rhywun yn gwybod sy’n anaddas i blant gyda’r ‘blocio’ yn cael ei ddiweddaru’n gyson fel mae safleoedd newydd yn cael eu creu. Er yn anhebygol iawn, ni ellir gwarantu’n llwyr na fydd disgyblion yn cael mynediad i safleoedd anaddas ar ddamwain. Er hyn mae’r ysgol yn credu bod y manteision a ddaw yn sgîl defnyddio’r Rhyngrwyd yn llawer mwy na’r anfanteision.
Er mwyn ceisio sicrhau na fydd y disgyblion yn mynychu safleoedd anaddas ar y We bydd athrawon yn goruchwilio y defnydd a wna’r disgyblion o’r Rhyngrwyd yn ystod y gwersi gan arwain disgyblion at adnoddau addas. Mae’n ofynnol hefyd i’r disgyblion hynaf ddeall a dilyn canllawiau’r ysgol ar gyfer defnyddio’r Rhyngrwyd.
Llythyr caniatad ........ cliciwch yma
• Dylai disgyblion barchu polisïau Iechyd a Diogelwch yr ysgol bob amser.
• Mae rheolau tân yn amlwg ym mhob ystafell, a cheir ymarferion tân rheolaidd.
• Cyfrifoldeb y plentyn yw unrhyw eiddo personol. Dylid marcio popeth (dillad, bagiau, pyrsiau) yn glir er mwyn gallu eu hadnabod. Ni ddylid gadael unrhyw beth gwerthfawr yn yr ystafell gotiau, ond eu rhoi i’r athro/athrawes priodol yn syth. Ni chaniateir i blant ddod â ffôn symudol i’r ysgol.
• Ni chaniateir i ddisgyblion wisgo clustdlysau ac eithrio rhai o natur ‘sleepers’. Mae achosion wedi bod lle mae clustdlysau wedi bachu mewn pethau gan achosi niwed difrifol i glustiau.
• Ceir system ddiogelwch ar ddrysau’r ysgol ac felly maent ar glo yn ystod amser gwersi. Golyga hyn bod yn rhaid i bawb – gan gynnwys disgyblion sy’n cyrraedd yn hwyr – ganu gloch y prif ddrws i gael mynediad.
• Gofynnir i rieni beidio dod â phramiau a bygis i mewn i’r ysgol ben bore.
• Ni chaniateir i rieni ddod â’u ceir i fyny o’r adwy at yr ysgol rhwng 8.30 a 9.00, 10.40 a 11.00, 12.35 a 12.55 a rhwng 2.30 a 3.10.
• Ni chaniateir i blant fod ar dir yr ysgol cyn 8.35 y bore gan y bydd cerbydau yn mynd a dod a neb i’w goruchwylio.
Rhoddir pob plentyn yng ngofal athro/athrawes dosbarth, ond ceisia’r staff cyfan ymorol am les yr holl ddisgyblion. Mae’r ysgol hon yn annog plant i fod yn hunan-ddisgybledig, yn gyfrifol ac i ddangos parch at eraill. Gwyddom y cawn gefnogaeth rhieni yn hyn o beth.
Mae gofal bugeiliol yn rhan o wasanaeth pob athro, a dyma rai o’r dyletswyddau:-
• Cofrestru eu grwpiau er mwyn monitro prydlondeb a phresenoldeb.
• Hysbysu’r Pennaeth o unrhyw bryderon am waith ysgol neu ymddygiad.
• Cyflwyno pob gwybodaeth angenrheidiol a llythyrau i’r plant fynd adref.
• Cyfarfod â’r rhieni yn ystod Nosweithau Agored.
• Paratoi adroddiadau i’r rhieni ar ddiwedd blwyddyn ysgol ar ddatblygiad eu plant.
Mae’r Polisi Gwaith Cartref yn cynnig canllawiau ar faint o waith cartref ffurfiol a osodir yn CA2. Gofynnir i rieni arwyddo’r daflen gwaith cartref yn wythnosol. Ni osodir unrhyw waith cartref ffurfiol yn y Babanod, ond disgwylir i blant o bob oed fynd â llyfrau darllen adref yn ddyddiol. Gobeithir y bydd y cartref yn cydweithredu i hybu gwaith y plant.
Ambell i dro bydd gweithgarwch arbennig yn gofyn am wybodaeth gan rieni a pherthnasau a chymdogion, neu’n gofyn am waith holi a darganfod ar ran y plant. Sylweddolir mai cyfrifoldeb y cartref yw’r plentyn yn ystod yr oriau hyn ac mai yng ngoleuni’r cyfrifoldeb hwnnw y bydd rhieni yn cytuno neu’n anghytuno i gydweithredu.
O dro i dro fe all athro/athrawes ofyn i blentyn wneud gwaith ychwanegol er mwyn goresgyn rhyw wendid neu ganolbwyntio ar agwedd arbennig o’r gwaith. Bryd hynny gobeithir cael cydweithrediad llwyr y cartref ac anogaeth i’r plentyn i wneud y gwaith.
Gobeithia’r ysgol sicrhau cydweithrediad a chefnogaeth y rhieni gyda’r holl weithgareddau ychwanegol a drefnir. Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau o bryd i’w gilydd sy’n agored i’r holl ddisgyblion sydd, ym marn yr athrawon, yn aeddfed ac yn barod i gymryd rhan ynddynt.
Mae cyfle i’r plant o Flwyddyn 3 neu Blwyddyn 4 ymlaen gael gwersi chwythbrenau ac offerynnau pres. Yn anffodus, mae’n rhaid codi tâl am y gwersi a’r gost cyfredol yw £30.00 y tymor neu £80 am y flwyddyn.
Yn dilyn cais gan y rhieni eu hunain, y mae gan yr ysgol hon wisg ysgol swyddogol. Er nad oes gan yr ysgol yr hawl i orfodi plant i’w gwisgo teimlir fod gwisg ysgol yn arwain at feithrin balchder yn yr ysgol ac ymdeimlad o berthyn iddi. Yn ôl nifer o rieni y mae yn ffordd rwydd a rhesymol o ddilladu plant. Anogir rhieni, felly, i anfon eu plant i’r ysgol yn y wisg ysgol.
Y wisg yw:
Crys Chwys emrallt gyda logo’r ysgol arno.
Crys Polo glas tywyll gyda logo’r ysgol arno.
Trowsus loncian/trowsus/sgert glas tywyll.
GELLIR ARCHEBU’R CRYSAU CHWYS A’R CRYSAU POLO DRWY’R YSGOL.
Mae’n bwysig bod plant yn gwisgo esgidiau neu drainers addas am eu traed.
GWNEWCH YN SIWR FOD ENW EICH PLENTYN AR BOB DILLEDYN, OS GWELWCH YN DDA
Ceisir annog y plant i fyw yn iach, felly ffrwythau yn unig a ganiateir amser chwarae.
Yr ydym yn cynnig llefrith (1/3 o beint) i bob plentyn yn ystod amser chwarae bore, a’r pris cyfredol yw 10c y diwrnod. Caiff plant dan saith oed y llefrith hwn am ddim.
Cesglir arian llefrith ar fore Llun hefyd a rhaid talu ymlaen llaw. Anogir rhieni i dalu am dymor neu hanner tymor ar y tro os yn bosibl.
Gan ein bod yn archebu llefrith fis ymlaen llaw rhaid rhoi rhybudd o fis os yw plentyn am roi’r gorau i gymryd llefrith.
MEDDYGOL
Disgwylir i rieni hysbysu’r ysgol o unrhyw gyflwr meddygol neu glinigol a allai effeithio ar addysg plentyn.
Yn gyffredinol ni chaniateir i staff roi moddion i blant. Os yw’n hanfodol bod plentyn yn cymryd moddion yn ystod oriau ysgol rhaid trafod y mater gyda’r Pennaeth ac mae’n bosibl y bydd angen i’r meddyg teulu arwyddo ffurflen bwrpasol a geir o’r ysgol. Ni ddylai plant ddod â moddion i’r ysgol eu hunain.
LLAU PEN
Yn unol â pholisi yr ysgol hon - a holl ysgolion cynradd y Dalgylch - os y gwelwn lau ym mhen plentyn, byddwn yn hysbysu’r rhieni a gofyn iddynt ddod i gasglu’r plentyn o’r ysgol. Rhaid trîn y gwallt cyn anfon y plentyn yn ôl i’r ysgol.
Nodau
1. Creu awyrgylch hapus a symbylus lle y gall disgyblion a staff weithio, ymateb a datblygu’n hyderus.
2. Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl gan ymateb i ofynion yr Awdurdod Addysg a’r Cynulliad – yn arbennig o safbwynt natur a chynnwys y Cwricwlwm.
3. Meithrin hunan-barch disgyblion, balchder yn eu gwaith a’u cynefin, a pharch tuag at eraill a’u heiddo a thuag at byd y maent yn byw ynddo.
Amcanion
1. Creu awyrgylch ffafriol er hyrwyddo datblygiad plentyn fel unigolyn – yn feddyliol, yn gorfforol ac yn ysbrydol.
2. Datblygu sgiliau plant ar draws ystod eang o feysydd drwy ddarparu cwricwlwm perthnasol, eang a chytbwys.
3. Datblygu sgiliau ieithyddol plant yn y Gymraeg a’r Saesneg yn unol â Pholisi’r Ysgol a Pholisi Iaith yr Awdurdod.
4. Annog plant i ddatblygu eu doniau a’u cryfderau, i fod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidiau ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau oriau hamdden.
5. Datblygu hunan-hyder a hunan-ddisgyblaeth plant ynghyd ag ymarweddiadau briodol mewn gwahanol sefyllfaoedd.
6. Meithrin yn y plant oddefgarwch a pharch tuag at eraill a’u heiddo, a’u hannog i feithrin gwerthoedd moesol personol.
7. Hybu cydweithio effeithiol cyd-rhwng disgyblion â’i gilydd a chydweithio rhwng disgyblion â staff, a hynny yn seiliedig ar barch a gofal.
8. Sicrhau bod yr adeilad yn ateb gofynion iechyd a diogelwch gan hybu glanweithdra a pharch tuag at yr amgylchedd a hylendid personol.
9. Creu awyrgylch ddiddorol a chwaethus i’r plant weithio ynddo.
10. Darparu cyfleoedd i staff gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol a chynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu’n broffesiynol.
11. Anelu at gynnig cyfle cyfartal ym mhob gweithgaredd, ond gan wahaniaethu pan fo hynny’n hyrwyddo gwell mynediad i’r cwricwlwm.
12. Meithrin cydweithio effeithiol rhwng y cartref a’r ysgol fel bod pob plentyn yn cael y budd mwyaf o’r addysg a gynigir gan yr ysgol.
13. Hybu rhwydwaith o gysylltiadau rhwng yr ysgol a’r gymuned.
Credwn yn Ysgol Dolbadarn mai ymdrech, parch a chydweithio yw’r conglfeini sy’n arwain at lwyddiant a boddhâd i’r unigolyn, i’r ysgol ac i’r gymuned.
Yn yr ysgol hon, fel pob un arall, fe fydd gennym blant gydag anghenion addysgol arbennig (AAA). Ni olyga hynny o angenrheidrwydd nad ydyw’r plant hyn yn blant galluog, neu bod eu problem yn un barhaol. Gall nifer o ffactorau effeithio ar ddatblygiad addysgol plentyn ac mae hi’n bwysig i rieni ddweud wrthym ni am unrhyw beth a allai effeithio ar addysg eu plant. Mae gan blant hynod o alluog anghenion arbennig yn ogystal, ac mae'r ysgol hon yn ymwybodol iawn o hyn. Mae’r ddeddfwriaeth ddiweddar wedi ffurfioli canllawiau sydd i’w dilyn, ac mae’n bwysig i rieni fod yn ymwybodol ohonynt a sut yr ydym ni’n ymdrin â hwy.
Ein polisi ni yw rhoi gwybod i rieni am unrhyw anghenion arbennig a welwn yn eu plant, o ran gwaith ac ymddygiad. Erbyn hyn, mae’r gyfraith yn mynnu bod rhieni yn cymryd rhan ar bob cam o unrhyw broblem addysgol. Afraid dweud mai synnwyr cyffredin yw hynny, ond rhaid pwysleisio bod rhaid wrth yr un synnwyr cyffredin pan fydd rhieni’n ymwybodol o rywbeth y tu allan i’r ysgol y credent sy’n rhwystr i ddatblygiad eu plentyn.
Yn gyffredinol, dyma sut mae’r ysgol yn ymateb ym maes AAA:
1. Os bydd athro/athrawes yn pryderu am ddisgybl trafodir y pryderon gyda’r rhieni. Bydd y sefyllfa yn cael ei hadolygu ymhen tymor.
2. Os bydd y trafferthion yn parhau bydd enw’r plentyn yn cael ei roi ar Gofrestr AAA yr ysgol a Chynllun Addysg Unigol yn cael ei gynllunio i’w weithredu gan yr ysgol a’r cartref. Bydd cynnydd y disgybl yn cael ei adolygu bob tymor a hanner.
3. Os bydd yr ysgol yn methu diwallu anghenion y plentyn, gelwir arbenigwyr megis Seicolegwyr Addysg i mewn i gynnig cymorth i'r ysgol a llunio Rhaglen Waith Unigol arbenigol i'r plentyn i gael ei weithredu gan yr ysgol a’r cartref, neu bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod Addysg dan y Cynllun 3*. Bydd cynnydd y disgybl yn cael ei adolygu bob tymor a hanner.
4. Os nad oes cynnydd digonol yn digwydd bydd y plentyn yn cael ei gyfeirio i sylw arbenigwyr gyda chais am asesiad ffurfiol a allai arwain at Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig.
5. Os yw plentyn ar Ddatganiad, bydd yr Awdurdod Addysg Lleol yn rhoi cymorth i'r ysgol i ddiwallu anghenion y plentyn e.e. trefnu ei leoli mewn uned arbennig, talu am gymorth o fewn y dosbarth a.y.y.b. Cynhelir Adolygiad Blynyddol ar bob Datganiad o AAA.
Ceir hefyd o fewn dalgylch yr ysgol uwchradd leol Uned ar gyfer plant sydd ag anghenion addysgol arbennig cyffredinol.
GWEITHREDU’R POLISI AAA.
Cafodd Polisi AAA yr ysgol ei ddiwigio yn ystod Tymor Yr Haf 2002 i adlewyrchu’r gofynion statudol newydd a’i adolygu Mai 2006. Y Pennaeth fel y cyd-gysylltydd AAA dynodedig sydd â’r cyfrifoldeb dros drefnu unrhyw fewnbwn ychwanegol i ddisgyblion ag anghenion arbennig. Clustnodwyd arian yng Nghyllideb yr ysgol i gyflogi uwch gymhorthydd i hybu sgiliau llythrennedd carfan o ddisgyblion drwy ddull dysgu manwl. Fe drefnir grwpiau addysgu llai eraill yn achlysurol er mwyn diwallu anghenion grwp o blant ag anghenion cyffelyb. Anelir at gael cydbwysedd o gynhaliaeth o fewn dosbarth drwy dasgau gwahaniaethol a sylw penodol y tu allan i’r dosbarth.
Seilir Polisi’r ysgol ar Bolisi Iaith yr Awdurdod Addysg.
AMCANION CYFFREDINOL
a) Meithrin agwedd gadarnhaol tuag at y ddwy iaith.
b) Datblygu gallu ieithyddol yn ei holl agweddau yn y ddwy iaith.
c) Meithrin diddordeb mewn ffurfiau amrywiol o lenyddiaeth.
ch) Creu ymwybyddiaeth o werth yr etifeddiaeth Gymraeg.
AMCANION PENODOL
ADDYSG FEITHRIN
Sicrhau, trwy ddarpariaeth a threfniadaeth bwrpasol a sensitif, y rhoddir i bob plentyn sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei alluogi i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law.
ADRAN Y BABANOD
Adeiladu ar y sylfeini â osodwyd i’r Gymraeg drwy addysg feithrin, atgyfnerthu a datblygu mamiaith y plentyn o ddysgwr Cymraeg ac, yn achos y plentyn o gartref Cymraeg, ymestyn ei afael ar y Saesneg.
YR ADRAN IAU
Atgyfnerthu a datblygu Cymraeg a Saesneg pob plentyn yn eu holl agweddau goddefol a gweithredol, er mwyn sicrhau bod y plentyn yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhwydd ac yn hyderus yn y ddwy iaith pan fo’n trosglwyddo i’r ysgol uwchradd.
HWYR DDYFODIAD
I’r dysgwyr a ddaw i’r Adran Iau y nod yw cyflwyno’r iaith newydd iddynt cyn gynted â’u bod wedi ymgartrefu. Rhoddir pwyslais ar y wedd lafar yn gyntaf, a phan fo’r iaith wedi datblygu’n foddhaol cychwynnir ar y sgiliau ieithyddol eraill. Yn naturiol, byddwn yn cydweithio’n glos â’r Athrawon Bro.
ANAWSTERAU DYSGU
Pan fo plentyn unigol yn wynebu problemau dysgu dwys, bydd y sylw ychwanegol yn canolbwyntio ar feithrin ei sgiliau darllen ac ysgrifennu yn y famiaith, ar yr un pryd anelir at ddatblygu’r plentyn i fod yn ddwyieithog yn llafar.
ETHOS GYMRAEG
I hybu naws Gymreig yr ysgol, disgwylir mai’r Gymraeg a ddefnyddir i sgwrsio’n anffurfiol yn y dosbarth ac ar y buarth.
Ceir canllawiau ar y defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg mewn dogfen yn dwyn y teitl – ‘Y Defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg yn yr Ysgol.’
Dalgylch Llanberis a Nantperis a wasanaethir gan Ysgol Dolbadarn. Mae pob plentyn sy’n byw o fewn y dalgylch yn cael ei dderbyn i’r ysgol (ac eithrio dan amgylchiadau arbennig iawn) a dylai rhieni lenwi ffurflen gofrestru cyn gynted ag y maent wedi penderfynu anfon eu plentyn atom a’i hanfon i Swyddfa’r Sir.
Dylai rhieni sy’n byw y tu allan i’r dalgylch, neu rieni sy’n dymuno trosglwyddo eu plentyn o ysgol gynradd arall (a heb fod yn newid cyfeiriad), lenwi ffurflen dewis rhieni a chyflwyno’r cais i’r Awdurdod Addysg, ond nid cyn trafod hyn gyda’r Pennaeth.
Os gwrthodir lle i’r disgybl yn Ysgol Dolbadarn, bydd gan y rhieni hawl i wneud apêl i’r Awdurdod Addysg ac i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Dyma’r math o brofiadau a gweithgareddau y gall rhieni eu gwneud efo’u plant i’w galluogi i wneud y cynnydd gorau yn yr ysgol.
Profiadau y Cyfnod Sylfaen
• Magu annibyniaeth e.e. gwisgo/dadwisgo, tacluso ar ôl chwarae gyda theganau.
• Canolbwyntio ar dasg neu weithgaredd am gyfnod e.e. gêm, jig so ayb.
• Sgwrsio am brofiadau personol.
• Darllen a thrafod bob math o lyfrau.
• Defnyddio gwahanol gyfryngau i wneud marciau e.e. pinnau ffelt, paent, creonau.
• Cyfrif gwrthrychau o fewn eu profiad bob dydd i 10, 20, a thu hwnt.
Erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen
Gwybod tablau 2, 5 a 10 Adio a Thynnu yn eu pen rifau at 20 (5 + 3,
10 – 8)
Ysgrifennu brawddegau Sgwrsio yn y Gymraeg a'r Saesneg
Cyfri hyd at 100 a mwy Dweud yr amser (o leiaf ar yr awr, hanner
awr wedi a chwarter wedi ac i.)
Ysgrifennu stori syml, rhestr, dyddiadur ayyb.
Cyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 3 a 4)
Gwybod tablau 2, 3, 5, a 10 o leiaf
Dweud yr amser ar gloc analog a digidol
Bod yn hyderus wrth drin arian
Ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg - llythyrau, storïau ayyb.
Trafod a sgwrsio gan fynegi barn yn synhwyrol yn y ddwy iaith.
Cyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 5 a 6)
Gwybod tablau at 10 i gyd erbyn diwedd Blwyddyn 5
Ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg - storïau, llythyrau, ayyb gyda sillafu sicr ac atalnodi’n gyson.
Trafod a sgwrsio yn hyderus yn y ddwy iaith gan ddefnyddio iaith gywir, geirfa eang a mynegi barn a safbwynt yn glir.
Pob Oedran
Mae darllen a chyd-ddarllen gyda rhiant (neu aelod arall o’r teulu megis Nain a Taid, brawd neu chwaer hŷn neu cymdogion yn hollbwysig ac mae cyfnod byr cyson yn fwy bendithiol na chyfnod hwy yn achlysurol. Rydym yn ffodus bod y llyfrgell leol ar y ffordd i’r ysgol; dylid annog y plant i fynd yno’n rheolaidd i fenthyg llyfrau.
TREFNIADAU AWR GINIO
Mae dau eisteddiad cinio yn yr ysgol; y babanod yn gyntaf a’r plant iau ar eu holau. Bydd y plant sydd yn dod â’u bwyd eu hunain yn ei fwyta yn yr ystafell fwyta gyda’r plant sydd yn cael cinio ysgol. Mae perthynas hwyliog rhwng ein disgyblion a’n staff goruchwylio a merched y gegin.
Ni chaniateir i blant ddod â fferins, diodydd ffisi, na diod mewn poteli gwydr neu ganiau yn eu bocs bwyd. Os yw’r plentyn eisiau newid o ginio i frechdanau neu o frechdanau i ginio, dylid rhoi wythnos o rybudd.
CINIO YSGOL
Ar hyn o bryd, mae cinio ysgol yn £9.50 yr wythnos (£1.90 y diwrnod)
• Rhaid talu pres cinio ar Ddydd Llun, (neu fore Gwener os yw plentyn yn absennol ar Ddydd Llun). Rhowch yr arian mewn hen amlen gydag enw a dosbarth y plentyn yn glir arno.
• Os oes gan eich plentyn unrhyw broblemau bwyta e.e. os ydyw’n araf iawn yn bwyta, neu bod problem deiet neu alergedd ganddo, a fyddwch cystal â gadael i ni wybod .
• Y mae gan eich plentyn / plant hawl i ginio am ddim os ydych yn derbyn Cymorth Incwm neu Lwfans Chwilio am Waith. Mae’r ffurflen gais i’w chael gan yr ysgrifenyddes.
• Y mae’r fwydlen yn cael ei llunio gyda’r nod o gynnig bwydlen amrywiol a chytbwys.
Mae’n hanfodol bod plant yn mynychu’r ysgol yn rheoliadd o ran sicrhau:
1. Cynnydd Addysgol
2. Arfer Dda
3. Diogewlch
Cynnydd Addysgol
Os yw plant yn mynd i fanteisio’n llawn ar addysg mae’n rhaid iddynt fynychu’r ysgol yn rheolaidd. Mae adroddiad ar astudiaeth o ‘The Correlation between Attendance and Attainment in Schools’ yn agoriad llygad.
Canfu’r ymchwil bod 90% o’r plant sy’n colli llai na 7½ diwrnod mewn blwyddyn yn cyrraedd y lefel ddisgwyliedig mewn mathemateg a iaith yn 11oed ond bod llai na 65% o’r rhai sy’n colli 15 diwrnod neu fwy mewn blwyddyn yn gwneud hynny. Erbyn blwyddyn TGAU mae’r gwahaniaeth yn fwy fyth -90% a 31% yw’r ystadegau. Dyma pam fod pwysau arnom fel ysgol i gael presenoldeb o dros 95%.
Arfer Dda
Does dim disgwyl i blentyn ddod i’r ysgol os yw’n sâl; yn wir mae anfon plentyn i’r ysgol ag yntau’n sâl yn aml yn creu gwaith ychwanegol ar staff os oes angen ei ymgeleddu ac yn arwain at eraill yn dal y salwch hefyd. Ar y llaw arall, mae gadael i blentyn aros adref heb reswm digonol yn rhoi esiampl wael iddo. Mae disgygblion sy’n mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn sefydlu arfer dda ar gyfer bod yn ddinasyddion cyfrifol. Maent yn debygol o fabwysiadu’r arfer dda ym myd gwaith, sef dim ond colli pan fod rheswm digonol dros wneud hynny. Dyma pam ein bod yn gwobrwyo presenoldeb llawn bob tymor.
Does gan blant ddim hawl i golli ysgol i fynd efo rhiant i siopa. Byddwch hefyd yn ymwybodol bod y Llywodraeth yn pwyso ar reini i beidio tynnu eu plant allan yn ystod tymor ysgol ar gyfer gwyliau teuluol.
Diogelwch
Yn ffodus nid yw trwantiaeth yn broblem yn yr ysgol hon, ond mae yna sawl achos wedi bod yn y newyddion dros y blynyddoedd diwethaf ble mae plentyn heb gyrraedd yr ysgol er bod y rhieni’n tybio bod ef neu hi yno. Dydy’r rhieni heb ganfod bod y plentyn wedi ei gipio hyd amser te a phethau difrifol wedi digwydd heb i neb wybod.
I sicrhau nad yw hyn yn digwydd yma yn Llanberis, rydym yn disgwyl i chi fel rhieni gysylltu â’r ysgol i egluro pam nad yw eich plentyn yn mynd i fod yn yr ysgol y diwrnod hwnnw. Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd:
1. Galwad ffôn rhwng 8.15 a 8.45 y bore gan nodi enw’r plentyn, y dosbarth a’r rheswm dros yr absenoldeb. Os ydych yn sicr bod eich plentyn yn mynd i fod i ffwrdd am fwy nad un diwrnodd, ee tan y Llun canlynol, gallwch nodi hynny.
2. Ffonio cyn 8.00 a gadael neges ar y peririant ateb.
3. Anfon neges e-bost i pennaeth @dolbadarn.gwynedd.sch.uk
4. Anfon neges destun i ffôn symudol yr ysgol (07500 426880)
5. Rhoi nodyn i berson arall ddod i’r ysgol.
6. Dod i’r swyddfa’n bersonol i adael y neges.
Os nad ydym wedi derbyn neges erbyn amser cau’r cofrestr a’ch plentyn heb gyrraedd yr ysgol byddwn yn gwneud ymholiadau, gan gynnwys cysylltu â’r heddlu os ydym yn bryderus.
O dro i dro bydd lluniau/clip fidio yn cael eu tynnu o blant yr ysgol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol. Gall rhai o’r lluniau hyn gael eu rhoi yn y papur newydd, neu eu cynnwys mewn cyhoeddiadau am yr ysgol neu ar safle gwe dan enw’r ysgol, Cyngor Gwynedd neu sefydliadau eraill y bydd yr ysgol yn cydweithio â nhw.
Ar ddechrau gyrfa eich plentyn yn yr ysgol gofynnir am eich caniatâd i luniau o’r fath gael eu tynnu. Ysytrir bod y caniatâd mewn grym tra bydd eich plentyn yn ddisgybl yn yr ysgol neu hyd oni ddiddymwch y caniatâd yn ysgrifenedig.
Os nad ydych am i’ch pletnyn gael ei g/chynnwys mewn lluniau i’r pwrpas yma a wnewch chi ysgrifennu at Bennaeth yr ysgol i ddweud hyn, bydd ef wedyn yn trefnu i drafod eich dymuniadau efo chi.
Llythyr caniatad ........ cliciwch yma
Mae’r ysgol hon yn credu bod partneriaeth hapus ac agored
rhwng y cartref a’r ysgol yn hollbwysig. Anogir rhieni i gymryd diddordeb yn addysg eu plant ac i hyrwyddo pob ymdrech i feithrin perthynas iach rhwng yr ysgol a’r cartref. Mae’n bwysig fod rhieni’n sylweddoli gwerth perthynas onest ac agored rhyngddynt hwy â’r ysgol. Yr un nod sydd gan bawb yn y diwedd, y nod o ddarparu’r addysg orau posibl i’r plant. Mae’r bartneriaeth yn hanfodol i lwyddiant ein nod, mae’n dibynnu ar gysylltiadau da a chydweithio rhwng y cartref a’r ysgol bob amser. Erbyn hyn mae’n ofyn statudol bod cytundeb cartref-ysgol ffurfiol yn cael ei arwyddo – gweler Atodiad 1.
Ar ddechrau pob blwyddyn ysgol, byddwn yn anfon calendr yr ysgol am y flwyddyn, yn nodi’r gwyliau ysgol a phrif ddyddiadau. Byddwn yn anfon Cylchlythyr unwaith neu ddwywaith y tymor sy’n sôn am nifer o weithgareddau a newyddion am yr ysgol.
Byddwn yn dosbarthu llythyrau eraill yn achlysurol i rieni drwy law eu plant, e.e., caniatâd i fynd ar daith, gwahoddiad i weithgareddau, a newyddion am Gymdeithas Rhieni a Chyfeillion yr Ysgol. Gofynnir yn garedig i chi ddarllen pob gohebiaeth yn ofalus. Bydd holl ohebiaeth cyffredinol yr ysgol yn ddwyieithog.
Mae yna nifer o achlysuron y byddwn yn eich gwahodd iddynt ac mae yna nifer o weithgareddau cymdeithasol yr hoffwn ichi fanteisio arnynt i ddod i adnabod yr ysgol a’r athrawon. Mae gwaith Cymdeithas Rhieni a Cyyfeillion yr Ysgol yn bwysig iawn – beth am ddod draw i’n gweithgareddau?
Bydd cyfle i chi ddod i’r ysgol i drafod gwaith eich plentyn gyda’r athro/athrawes ddosbarth yn ystod Tymor Yr Hydref a Thymor Y Gwanwyn. Ar ddiwedd Tymor Yr Haf byddwch yn derbyn adroddiad ysgrifenedig ar waith y flwyddyn a chyfle pellach i ddod i drafod yr adroddiad.
Anogir rhieni i gysylltu â’r ysgol unrhyw amser os ydynt yn gofidio am unrhyw beth ac fe fydd yr ysgol yn cysylltu â’r cartref hefyd os oes gennym bryderon. Anfonir llythyr personol drwy’r post neu gwneir galwad ffôn os ydym am gael gair cyfrinachol â chi.
O Fedi 2008 bydd disgyblion yr ysgol yn mynd trwy ddau cyfnod penodol yn yr ysgol hon:
• Cyfnod Sylfaen 3 – 7 oed
• Cyfnod Allweddol dau (CA2) 7 – 11 oed
Cyfnod Sylfaen – Plant 3-7 oed
Caiff disgyblion eu derbyn i’r Dosbarth Meithrin yn y Medi yn dilyn eu penblwydd yn dair oed ac maent yn cael dwy awr y dydd o addysg. Mae’r disgyblion yn mynychu’r ysgol yn llawn amser o’r Medi canlynol ymlaen, h.y. y Medi yn dilyn eu penblwydd yn 4 oed. Cynllunir addysg y disgyblion am y bedair blynedd gyntaf yn ôl gofynion y Cyfnod Sylfaen.
Mae i’r addysg hwn saith maes dysgu a phrofiad penodol, sef:
• Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Diwylliannol.
• Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu.
• Datblygiad Mathemategol.
• Datblygu’r Gymraeg.
• Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd.
• Datblygiad Corfforol.
• Datblygiad Creadigol.
Amcan y Cyfnod Sylfaen yw cyfoethogi’r profiadau dysgu sy’n galluogi plant i fod yn greadigol, defnyddio’u dychymyg a chael hwyl wrth ddysgu. Caiff plant fwy o gyfleoedd i archwilio’r byd o’u cwmpas a deall sut mae pethau’n gweithio drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy’n hwyl ac yn berthnasol i lefel eu datblygiad.
Mae’r Cyfnod Sylfaen yn rhoi mwy o bwyslais ar ddysgu drwy brofiad, yn cynnwys gweithio’r tu allan. Anelir at ddatblygu’r canlynol ymhlith y plant:
• sgiliau a dealltwriaeth
• lles personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol, er mwyn datblygu’r plentyn cyfan
• agweddau cadarnhaol at ddysgu er mwyn iddynt fwynhau a bod eisiau parhau â’u haddysg am gyfnod hirach
• hunan-barch a hunanhyder i arbrofi, ymchwilio, dysgu pethau newydd a chreu perthynas â phlant/pobl eraill
• sgiliau creadigol, mynegi ac arsylwi i hyrwyddo eu datblygiad fel unigolion â ffyrdd gwahanol o ymateb i brofiadau
• gweithgareddau y tu allan lle cânt brofiad uniongyrchol o ddatrys problemau go iawn a dysgu am gadwraeth a chynaliadwyedd.
Yn ystod y tymor cyntaf yn y Flwyddyn Meithrin bydd yr athrawes yn cynnal yr asesiad ‘Cam Cyntaf’ ac yn ei drafod gyda rhieni i weld a yw ymateb y plentyn yn yr ysgol yn debyg i’w ymateb gartref. O fewn yr hanner tymor cyntaf yn y Flwyddyn Derbyn gweithredir yr ‘Asesiad Sylfaen’ sy’n asesiad statudol ac yn fodd i ganfod man cychwyn disgybl wrth ddechrau addysg llawn amser.
Plant 7-11 oed (CA2)
Cyfeirir ar y bedair blynedd o Blwyddyn 3 i Blwyddyn 6 fel CA2. Caiff y cwricwlwm ei gynllunio’n thematig yn y blynyddoedd hyn hefyd, ond ceir achosion pryd y cyflwynir rhai agweddau’n fwy pynciol. Mae cwricwlwm y blynyddoedd hyn yn cynnwys y pynciau canlynol:
| Pynciau Craidd:- | Cymraeg – iaith gyntaf | Saesneg |
| Mathemateg | Gwyddoniaeth |
| Pynciau Sylfaen:- | Technoleg Gwybodaeth | Dylunio a Thechnoleg |
| Hanes | Daearyddiaeth | |
| Cerdd | Celf | |
| Addysg Gorfforol | Addysg Grefyddol |
Ar derfyn CA2 hefyd fe weithredir Asesiadau Statudol a rydd lefel cyrhaeddiad yn ôl asesiad athrawon yn y pedwar pwnc craidd.
Yn ogystal â’r pynciau uchod, y mae’r ysgol, o fewn y themâu a thros amser, yn anelu at hybu y gofynion canlynol o fewn y cwricwlwm:
• Addysg Bersonol a Chymdeithasol – moesol, ysbrydol a’r emosiynol,
• Ymwybyddiaeth o bwysicrwydd iechyd a diogelwch gan gynnwys addysg rhyw
• Ymwybyddiaeth o fyd gwaith, diwydiant a masnach
• Ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol yn cynnwys aml-ddiwylliannedd a diwylliant byd-eang
• Astudiaethau lleol ac amgylchedd yn cynnwys pwysigrwydd gwarchod yr amgylchedd
Ers Medi 2008 mae’r Cwricwlwm yn canolbwyntio fwy-fwy ar ddatblygu sgiliau, yn arbennig y gallu i feddwl, sgiliau cyfathrebu, sgiliau technoleg gwybodaeth a sgiliau rhifedd. Rhoddir pwyslais cynyddol ar feithrin sgiliau dysgu’r disgyblion fel eu bod yn gallu ymateb i ofynion bywyd yr unfed ganrif ar hugain.
Ysgol naturiol Gymraeg yw Ysgol Dolbadarn ac mae’r staff a’r disgyblion yn gweithio’n galed i gadw naws ac awyrgylch Gymreig yr ysgol. Ni ddylai’r rhai ohonoch sydd â’ch plant yn ran o sefyllfa ddwyieithog am y tro cyntaf deimlo dan fygythiad na theimlo nad ydych chi’n perthyn.
Efallai nad ydych chi’n siarad Cymraeg (er bod llawer o rieni’n penderfynu dysgu’r iaith), ond gobeithiwn y byddwch yn parchu’r awyrgylch ieithyddol sy’n bodoli yma, awyrgylch sy’n cyfoethogi cymaint ym mhob ystyr ar brofiadau dysgu’r plant. Parchwn eich hawl chi i ddefnyddio’r iaith a ddewisir gennych, ac i’r diben hwnnw, bydd pob gohebiaeth cyffredinol o’r ysgol yn ddwyieithog.
“Nid llestri i’w llenwi yw plant -
Ond Lampau i’w goleuo…” Dienw
Swyddogaeth yr ysgol yw meithrin ac annog datblygiad pob plentyn fel unigolyn ac fel aelod o gymdeithas. Fel unigolyn mae’n rhaid annog ei dwf corfforol, ymenyddol a moesol a rhoi cyfle iddo ddatblygu cymaint â phosibl. Mae’r plentyn yntau yn aelod o’r gymdeithas a rhaid iddo fod yn barod i chwarae ei ran yn y gymdeithas y mae’n rhan ohonni.
Yn Ysgol Dolbadarn byddwn yn gweithio drwy’r ysgol ar Gylch o Themâu. Golyga hyn ein bod yn dewis thema fywiog a gafaelgar ar gyfer pob tymor. Bydd rhai themâu a gogwydd mwy gwyddonol ac eraill â gogwydd mwy daearyddol neu hanesyddol. Wedi dewis y thema mae'n orfodol mapio'r pynciau allan yn ofalus fel eu bod yn gweddu'r thema dan sylw. Drwy gynllunio’n fanwl byddwn yn anelu at sicrhau parhad a dilyniant drwy’r ysgol ac yn sicrhau fod pob agwedd o bob pwnc yn cael ei gyflwyno dros amser. Bellach mae’r pwyslais ar feithrin sgiliau yn hytrach na chofio gwybodaeth.
Defnyddiwn gyfuniad o ddulliau ffurfiol ac anffurfiol sy’n dibynnu ar natur y gwaith. Bydd trefniadaeth pob dosbarth hefyd yn hyblyg; weithiau darperir gwaith ar sail oedran, dro arall bydd plant o ystod oedran sy’n rhychwantu mwy nag un blwyddyn ysgol yn cydweithio ar yr un dasg. Ceir hefyd waith unigol, gwaith pâr, gwaith grŵp a gweithgareddau dosbarth cyfan. Yn y bôn anelwn at gynnig addysg blentyn ganolog, hynny yw, lle anogir plentyn i feddwl yn rhesymegol, i ddatrys problemau a dehongli canlyniadau, ynghyd â’r gallu i fynegi ei syniadau’n eglur ar lafar ac ar bapur.
Mae’r ysgol yn diweddaru ac addasu ei chynlluniau cwricwlaidd yn gyson yn unol â’r canllawaiu Sirol a’r gofynion statudol. Mae croeso i rieni weld y dogfennau sy’n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, ond iddynt wneud trefniadau rhesymol â’r Pennaeth ar gyfer hynny.
Ar wahân i arbenigedd unigol y staff dysgu, y ‘cwricwlwm cudd’ yw’r peth sy’n bennaf gyfrifol am roi i bob ysgol ei chymeriad unigol ac unigryw. Dyma’r rhan o’r cwricwlwm na ellir ei osod o dan benawdau - yr athroniaeth y tu cefn i’r dysgu ac ysgogiadau’r staff, ynghyd â’r ffordd y mae polisïau’r ysgol yn ystyried natur y gymdeithas a wasanaethir ganddi. Dyna sy’n rhoi i ysgol ei chymeriad ei hun.
Yma yn Ysgol Dolbadarn, ceisiwn wneud nifer o bethau nad ydynt yn rhan o’r cwricwlwm ffurfiol, pethau sy’n bwysig mewn bywyd yn ein meddwl ni. Credwn ein bod yma i roi gwasanaeth mwy na’r amcanion academaidd ar ben eu hunain (er bod y pwysau ac amser yr ysgol yn gwneud hyn yn fwyfwy anodd). Credwn y dylai pob plentyn allu uniaethu ei hun â’i ysgol - ac y dylai fedru gwneud hynny, nid yn unig drwy’r wisg ysgol sydd amdano, ond drwy agwedd yr ysgol at y byd mawr y tu allan. I’r diben hwn ceisiwn feithrin cysylltiadau â’n cymuned, ac ag ysgolion eraill y dalgylch.
Yr ydym yn ymwybodol iawn fod ein plant yn gorfod wynebu ansicrwydd mawr yn y byd sydd ohoni hyd yn oed yn eu bywydau ieuanc hwy ambell waith ac, o’r herwydd, teimlwn ei bod yn holl bwysig i ddysgu’n plant i feddwl drostynt eu hunain ac i ninnau gynnig awyrgylch gartrefol a chariadus iddynt.
Rhaid hefyd gwneud y plant yn ymwybodol o’u “Cymreictod” os ydynt yn Gymry. Os nad ydynt yn Gymry, dylid eu gwneud yn ymwybodol o’r hyn sydd gan y gymdeithas Gymreig a’r diwylliant Gymraeg i’w gynnig iddynt o ran cyfoethogi eu profiadau.
Gan anelu at y pethau hyn mae’r ysgol hon yn ceisio creu awyrgylch sy’n adlewyrchu balchder yn ei chymuned a dealltwriaeth y disgyblion o’i hanes a’i thraddodiadau.





