Hybu Darllen |
Mae plant sy’n rhannu llyfrau’n gyson efo aelodau’r teulu yn siwr o ddysgu darllen yn fuan.
Bydd cyfle i blant yr Adran Iau ymweld â’r llyfrgell fesul dosbarth yn ystod y flwyddyn er mwyn datblygu sgiliau llyfrgell.
Dyma oriau agor Llyfrgell Llanberis:-
Dydd Llun | ar gau |
Dydd Mawrth | 2pm - 6pm |
Dydd Mercher | ar gau |
Dydd Iau | 11am - 1pm / 2pm - 5pm |
Dydd Gwener | 3pm - 6pm |
Cliciwch yma am syniadau i rieni helpu ........
Isod mae rhai digwyddiadau fu Ysgol Dolbadarn yn rhan ohonynt i hybu darllen .......
2010 - hybu darllen drwy drama
Cafodd disgyblion CA2 weld cyflwyniad ‘ Hei Hogia Bach’.
Noddwyd y sioe gan Wasanaeth Llyfrgell Gwynedd. Roedd yr actorion yn cyflwyno detholiadau o lyfrau Cymraeg a Saesneg er mwyn hybu darllen.
Mae gennym gyswllt agos gyda'r llyfrgell leol
Rydym yn ffodus bod Llyfrgell y Pentref mor agos i’r ysgol.
2010
Trefnwyd eleni i’r dosbarthiadau hynaf gael mynd am sawl sesiwn i’r Llyfrgell fel eu bod yn deall yn iawn sut i ddefnyddio’r adnodd hwn.
2009
Mae’r Llyfrgell yn gosod her bob haf i ddisgyblion ddarllen nifer o lyfrau a chasglu sticeri bob tro maent yn ymweld â’r Llyfrgell i gyfnewid llyfrau darllen. Yn y llun mae’r disgyblion enillodd fedal am gyflawni’r her yn ystod haf 2009.