Archif Newyddion |
Newyddion o 2017:
Cynhaliwyd gwasnaeth diwedd tymor i wobrwyo a ffarwelio gyda disgyblion a staff.
Pob hwyl i griw o 12 a fydd yn mynychu Ysgol Brynrefail ym mis Medi.
Diolch i Miss Anest Bryn Jones am ei gwaith fel cymhorthydd ac athrawes yn ystod y blynyddoedd diwethaf a phob dymuniad da iddi yn Ysgol Corn Hir.
Diolch hefyd i Miss Sioned am ei gwaith a phob lwc iddi yn ysbyty Gwynedd.
------------------------------------------------------------------
Mabolgampau/Sports Day: Tim Buddugol Peris/ Winnig Team Peris
Victor Ludorum: Finlay Jackson
Victrix Ludorum : Hannat Thoss Fitzimmonns ac Awel Davies
------------------------------------------------------------------
Gala Nofio: Tim Buddugol Peris
Bachgen gyda’r nifer mwyaf o bwyntiau: Louis Lawes
Geneth gyda’r nifer mwyaf o bwyntiau:Jasmine Baylis
------------------------------------------------------------------
Gwobrau arbennig
Cywiath: Gwion Fon, Sam Booth a Macsen Torr
Cynnydd yn y Gymraeg: Nellie Cousins a Matthew Cowx
------------------------------------------------------------------
Tim Achub y Mynydd
Yr ydym yn ddiolchgar iawn i un o aelodau o dim achub y mynydd am ymweld a’r ysgol yn ddiweddar er mwyn hyrwyddo diogewlwch ar y mynydd- yr oedd y plant wedsi mwynhau’r sesiwn yn fawr iawn.
------------------------------------------------------------------
Parc Cenedlaethol Eryri
Daeth 2 aelod o Barc Cenedlaethol Eryri i’r ysgol i egluro gwaith y swyddogion wrth warchod yr amgylchfyd- diolch iddynt am gyflwyniad difyr iawn ac am negeseuon hynod o bwysig.------------------------------------------------------------------
Cadw Cymru yn Daclus
Bu plant Blwyddyn 3 yn cynorthwyo casglu sbwriel o gwmpas y pentref yn ddiweddar. Yr oedd yn dychryn rhai ohonynt i weld golwg yn y meysydd chwrarae ac yn neges bwysig i bawb gadw y pentref yn daclus.
------------------------------------------------------------------
Presenoldeb
Cafodd nifer dda o ddisgyblion wobrau arbennig am bresenoldeb llawn eto eleni- da iawn chi blant.
------------------------------------------------------------------
Taith yr Wyddfa 29.06.2018
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
Fideo Hunanwasanaeth 2018 gan Cyngor Gwynedd
------------------------------------------------------------------
Glan Llyn 2018
![]() |
Aeth criw da o blant Blwyddyn 5+6 i Glan Llyn yn ddiweddar. Cawsant benwythnos braf llawn hwyl. Diolch o galon i Mr Hughes a Mrs Millington am roi eu penwythnos i fyny er mwyn y plant!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
Mabolgampau 2018
![]() |
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
Gweithgareddau Awyr Agored Haf 2018
![]() |
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cliciwch yma i weld Bl. 3 yn dringo
------------------------------------------------------------------
Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen
![]() |
Aeth disgyblion yr Adran Iau i Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn ddiweddar fel rhan o'u taith blynyddol. Bu iddynt fwynhau dysgu am ddiwylliannau eraill y Byd yn ogystal a chanu Hen Wlad Fy Nhadau gyda cor o India.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
Celf Yr Urdd
![]() |
Llongyfarchiadau i griw Celf yr urdd am eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Cylch a sir. Y thema eleni oedd Chwedlau.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
PC Edwards
Gyda thristwch yr oeddem yn ffarwelio a Mr Edwards yn ddiweddar - yr ydym yn dymuno y gorau iddo yn ei swydd newydd ac yn dilch iddo am ei wasanaeth i’r ysgol.
------------------------------------------------------------------
Cynllun Creadigol Cyngor Celfyddydau: Blwyddyn 3
Bu blwyddyn 3 yn rhan o gynllun cyffrous yn hyrwyddo sgiliau llefaredd drwy sgiliau creadigol yn ddiweddar. Cawsant 8 wythnos o sesiynau diddorol gyda Branwen Davies, Sian Beca a Rhodri Williams.
Testun y gwaith oedd bywyd ifaciwis yng Nghymru a chyfnod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y disgyblion modd i fyw yn adrodd hanesion, cerddi a chwarae rôl fel ifaciwis a’u teuluoedd. Bu iddynt goginio teisennau a chanu caneuon traddodiadol i gyd er mwyn cynnal parti i groesawu’r ifaciwis.
Yr oedd sgiliau llafar a hyder y plant wrth berffornio wedi datblygu’n arw a phawb wedi mwynhau cymeryd rhan. Braf oedd gweld unigolion tawelaf y dosbarth yn serenu o flaen y camera.
Dyma enghreifftiau o waith y plant a lluniau o’r cyfnod cynllunio hyd at y parti terfynol.
Albwm 1 - cliciwch yma
Albwm 2 - cliciwch yma
Albwm 3 - cliciwch yma
------------------------------------------------------------------
Blwyddyn 6 :Plu
Bu Blwyddyn 6 ar y cyd a disgyblion eraill y Dalgylch yn cynnal ymarferion gyda ‘r band Plu yn ddiweddar er mwyn perfformio mewn cyngerdd mawreddog yn Ysgol Brynrefail ar Fehefin 25ain. Diolch i staff Ysgol Brynrefail am drefnu.
------------------------------------------------------------------
Blwyddyn 4 Planedau
Bu Blwyddyn 4 yn ran o gynllun llunio planedau yn ddiweddar- bydd y cynnyrch terfynol yn ymddangos yn caffi Pen Ceunant.
------------------------------------------------------------------
Gweithgareddau Awyr Agored:
Mae gweithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnosau nesaf ar gyfer pob dosbarth:
Blwyddyn 3 - dringo - cliciwch yma
Blwyddyn 4- Moel Eilio
Blwyddyn 5: Caiacio
Blwyddyn 6: Dringo’r Wyddfa
Diolch unwaith eto am gymorth yr holl rieni sydd wedi gwirfoddoli i wneud yn gweithgareddau hyn yn bosib.
Lluniau o'r Cyfnod Sylfaen
![]() |
![]() |
![]() |
------------------------------------------------------------------
Torgoch Llyn Padarn
Bu Dr Robin Parry mewn cysylltiad gyda’r ysgol yn ddiweddar er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn rhan o gynllun i geisio adfywio y niferoedd o’r pysgodyn Torgoch yn Llyn Padarn. Daeth tanc arbennig i’r ysgol a wyau Torgoch (diolch i Dr Parry am fynd mor bell i’w casglu!) Yr oedd y plant wrth eu boddau yn cael astudio yr wyau a gweld llygaid y pysgod ifanc. Bydd cyffro mawr rwan wrth ddisgwyl gweld yr wyau yn datblygu a chael cyfle i ryddhau y torgoch yn ôl i’r llyn cyn bo hir. Croesi bysedd!
------------------------------------------------------------------
Gala Nofio Yr Urdd yng Nghaerdydd
Bu i dim o bedwar o ddisgyblion Blwyddyn 4 yn y gala nofio yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn nofio ras gyfnewid dull rhydd. Yr oedd yn brofiad arbennig iddynt- da iawn chi fechgyn!
------------------------------------------------------------------
Cystadleuaeth Sportshall
Bu disgyblion Blwyddyn 6 yn cystadlu yn y gystadleuaeth Sportshall yn ddiweddar- da iawn wir i bawb a fu’n cystadlu a diolch i’r staff am eich hyfforddi. Mae athletwyr da iawn gennym ym mhen uchaf yr ysgol a braf yw gweld eu hyder yn datblygu drwy gystadlaethau fel hyn.
------------------------------------------------------------------
Galeri: Wy , Chips a Nain
Bu disgyblion yr ysgol i’r Galeri yn ddiweddar er mwyn gweld y perfformiad arbennig hwn sydd yn addysgu disgyblion am effeithiau dementia ar yr henoed. Yr oedd yn berfformiad arbennig a’r disgyblion wedi mwynhau yn arw.
------------------------------------------------------------------
Diolglewch Y We
Bu disgyblion yr ysgol yn dysgu negeseuon pwysig am sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel yn ddiweddar. Mae pawb bellach yn hollol ymwybodol o sut i gadw cyfrineiriau yn ddiogel a pheidio a chysylltu gyda dieithriaid ar y we.
------------------------------------------------------------------
Ymweliad Ysgol Brynrefail
Bu disgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Brynrefail yn ddiweddar yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau Celf ac i ddod i adnbaod staff a disgyblion yr ysgol. Diolch i staff Brynrefail am y profiad.
------------------------------------------------------------------
Cynllun Creadigol: Blwyddyn 3 ( Cyngor Celfyddydau)
Bu disgyblion Blwyddyn 3 yn cydweithio gydag ymarferwyr creadigol fel rhan o 10 diwrnod o weithgarwch creadigol yn ymwneud a’r Ail Ryfel Byd yn ddiweddar. Diolch i Branwen Davies, Sian Beca a Rhodri Williams am eu gwaith caled gyda’r disgyblion ac i Iola Ynyr am gyd-gysulltu’r holl waith. Bu’r disgyblion yn perfformio sgriptiau, monologau a chreu cerddi ar gyfer y parti ifaciwis ar ddiwedd y cyfnod. Dyma luniau o’r gweithgareddau a dyma fideos a'r cyflwyniad.
------------------------------------------------------------------
Sioe Mewn Cymeriad: Miliwn o bobl i siarad Cynraeg yn 2050
Cafwyd cyflwyniad arbennig gan yr actor Llion Williams yn ddiweddar i gyflwyno hanes brwydr yr iaith Cymraeg ac uchelgais y Cynulliad i lwyddo i gael miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn 2050. Mwynhaodd y plant y sioe yn fawr iawn yn enwedig o glywed hanes y ‘Welsh Not’ a hanes William Morgan.
------------------------------------------------------------------
Lluniau Sioe Nadolig
Yn dilyn dwy sioe Nadolig arbennig dyma gasgliad o luniau i chwi eu mwynhau. Mae DVD o’r sioeau ar gael gan yr ysgol am £8.
![]() |
Llew Frenin Nadolig 2017 - cliciwch yma
![]() |
Llys Lloerig Nadolig 2017 - cliciwch yma
------------------------------------------------------------------
Diwrnod HMS Chwefror 19eg - dim ysgol i blant
Plant Mewn Angen
![]() |
![]() |
Cafwyd elw da ar gyfer yr elusen yn ystod y dydd wrth I ddisgyblion wisgo eu pyjamas a phrynu cacennau. Bu Cyngor Yr Ysgol yn brysur iawn wrth baratoi gemau ar gyfer y ddau fuarth.
------------------------------------------------------------------
Rhieni a Chyfeillion
Diolch o galon i’r holl rieni a fu’n brysur yn cynorthwyo ar gyfer y Ffair Nadolig eleni- bu’n noson llwyddiannus iawn a cafwyd sypreis o weld Siôn Corn yno etop eleni. Diolch i bwyllgor y Ganolfan am eu rhodd hael unwaith eto er mwyn cynnal y noson.
------------------------------------------------------------------
Carol Nadolig
Mae disgyblion yr ysgol yn cystadlu yn y gystadleuaeth carol Nadolig gan raglen ‘Heno’ ar S4C. Mae Ms Rhiannon wedi bod yn brysur yn ysgrifennu’r garol a chyda ei llwyddiant yn y gystadleuaeth yn y gorffennol, yr ydym yn dymuno pob dymuniad da iddynt eleni. Bydd y 10 garol a ddewiswyd drwy Gymru yn cael eu darlledu yn ystod mis Rhagfyr.
------------------------------------------------------------------
Cleddyf Y Tywysogion
![]() |
Gwahoddwyd Cyngor Yr Ysgol i gynorthwyo Cyngor Gwynedd a gwrandawyr Radio Cymru er mwyn enwi cleddyf deuddeg troedfedd a fydd yn cael ei osod ar lan Llyn Padarn yn y dyfodol agos. Trafodwyd yr enwau yn ofalus gan y disgyblion gan geisio dewis enw addas ar gyfer cleddyf unigryw a fydd yn hyrwyddo hanes Tywysogion Gwynedd. Bu Aled Hughes a rhaglen Heno yn ffilmio y disgyblion wrth iddynt drafod yr enwau. Bu i Cyffin a Cafan Thomas( disgyblion yr ysgol) gynnig syniadau da ar gyfer y cleddyf. Yr enw buddugol ydy Llafn Y Cewri.
Dyma erthygl yn son am y digwyddiad : Golwg 360 https://golwg360.cymru/
Bu’r disgyblion hefyd yn trafod y digwyddiad ar rhaglen Aled Huws ar Radio Cymru ac ar raglen Heno.
Cliciwch yma i weld y fideo
------------------------------------------------------------------
Sioe Mewn Cymeriad: Mimosa
![]() |
Bu i’r disgyblion fwynhau y sioe yn sôn am hanes taith y Mimosa yn ddiweddar. Yr oedd hyn o gymorth mawr wrth ddatblygu ymwybyddiaeth y disgyblion o anturiaethwyr a fforwyr o Gymru.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
Archifdy a Llongau Caernarfon
![]() |
![]() |
Bu disgyblion yr Adran Iau ar daith arbennig i Gaernarfon yn ddiweddar er mwyn gwneud gwaith ymchwil ar y thema ‘Darganfod.’ Cawsant sesiwn hynod o ddifyr yn yr archifdy yn dysgu am yr hyn a gedwir yno a gweld rhai o hen luniau Llanberis. Diolch i Mr John Dilwyn Williams a Mrs Gwenda Williams am gynnal y sesiynau. Bu i’r disgyblion grwydro’r hen gei llechi a dysgu am hanes morwrol y dref. Croesawyd yn disgyblion i adeilad Wiston er mwyn dysgu am hanes cludo yr Olwyn ddwr i Gilfach Ddu
------------------------------------------------------------------
Gala Nofio Arfon
![]() |
Bu nifer o ddisgyblion yn cystadlu yn y Gala Nofio ym Mhwll Nofio Bangor yn ddiweddar ac yn llwyddiannus iawn wrth wneud hynny. Mae plant dawnus iawn gennym o ran safon y nofio yn yr ysgol ar hyn o bryd. Bydd ras gyfnewid dull rhydd Bechgyn Blwyddyn 4 yn cynrychioli’r Ysgol yng Nghaedydd ym mis Ionawr.
------------------------------------------------------------------
Rygbi
Bu canmoliaeth mawr i’r criw rygbi a fu’n cystadlu yng nghlwb Caernarfon yn ddiweddar a chyrraedd y rwond gyn-derfynol.. Da iawn chi hogia a diolch i Mr Gwilym am eu hyfforddi.
------------------------------------------------------------------
Pêl- Rhwyd
Llongyfarchiadau i dim pêl rhwyd yr ysgol ar eu gwaith caled er mwyn paratoi ar gyfer y twrmament yng Nghanolfan Brailsford yn ddiweddar. Bu iddynt frwydro’n galed yn erbyn timau da iawn. Gobeithio eu bod i gyd wedi mwynhau.
------------------------------------------------------------------
Disgyblion Ysgor Dolbadarn ar 'Heno' ar S4C efo'r gleddyf 'Llafn y Cewri'
Cliciwch yma i weld y fideo
------------------------------------------------------------------
Ffair wybodaeth ADYaCh
![]() |
Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma
------------------------------------------------------------------
Swyddogion Diogelwch Y Ffyrdd
Leo Haston Wilson
Jamie Huhjes
Dylestswyddau y disgyblion hyn fydd hyrwyddo diogelwch a chreu posteri ar gyfer diogewlch.
------------------------------------------------------------------
Swyddogion Presenoldeb
Annie Chester + Trystan Torr
Swyddogion presenoldeb am 2017-18 Bydd y disgyblion hyn yn casglu gwybodaeth am ystadegau presenoldeb pob dosbarth ac yn cynorthwyo hyrwyddo manteision presenoldeb da.
------------------------------------------------------------------
Grŵp Eco 2017 - 2018
Dyma ddisgyblion y grwp Eco am eleni- mae llawer o waith i’w wneud wrth ddatblygu agweddau Eco- pob dymuniad i chi.
Blwyddyn 2 |
Blwyddyn 3 |
Blwyddyn 4 |
Blwyddyn 5 |
Blwyddyn 6 |
Tyleri |
Ioan |
Hannah |
Jack |
Siwan |
Ethan |
Keira |
Deri |
Courtney |
Rufus |
-------------------------------------------------------------------
Llysgenhadon Siarter Iaith
![]() |
Dyma y disgyblion fydd gofalu am y Siarter Iaith am eleni- pob hwyl i chi gyda’r gwaith.
------------------------------------------------------------------
Y Cyngor Ysgol
Dyma blant y Cyngor Ysgol am eleni. Pob hwyl i Charlie Jackson yn ei swydd fel Cadeirydd am eleni.
Cynrychiolydd Blwyddyn 6 | Awel Davies (Ysgrifennydd) |
Cynrychiolydd Blwyddyn 6 | Joseff Closs Stacey |
Cynrychiolydd Blwyddyn 5 | Josh Ratchford |
Cynrychiolydd Blwyddyn 5 | Bella Evans |
Cynrychiolydd Blwyddyn 4 | Wil Ratchford |
Cynrychiolydd Blwyddyn 4 | Libby Worthington |
Cynrychiolydd Blwyddyn 3 | Otto Thomas |
Cynrychiolydd Blwyddyn 3 | Esyllt Ach Rhys |
Cynrychiolydd Blwyddyn 2 | Non Hughes |
Cynrychiolydd Blwyddyn 2 | Arthur Barrett |
Cynrychiolydd Blwyddyn 1 | Caio Jones (trysorydd) |
Cynrychiolydd Blwyddyn 0 | Catrin Morris |
Cynrychiolydd Meithrin | Charlie Jackson (Cadeirydd) |
------------------------------------------------------------------
Diwrnod HMS- dim ysgol i blant Tachwedd 6ed 2017
------------------------------------------------------------------
Tymor Ysgol newydd yn cychwyn 5ed o Fedi, 2017
Bydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ddydd Mawrth, 5ed o Fedi, 2017.
Gwobrau Arbennig
![]() |
Llongyfarchiadau i’r disgyblion hyn am eu cywaith arbennig ar Gymru yn ddiweddar. Rhoddwyd gwobr iddynt am ymdrech arbennig Da iawn chi.
------------------------------------------------------------------
Ffarwelio Blwyddyn 6
![]() |
Pob dymuniad da i’r criw yma ar y daith nesaf yn yr Ysgol Uwchradd. Maent wedi bod yn griw dymunol dros ben ( 15 o enethod a 3 bachgen). Pob hwyl i chi gyd a diolch am yr ymroddiad arbennig i fywyd yr ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
------------------------------------------------------------------
Victor a Victrix Ludorum Mabolgampau
![]() |
Llongyfarchiadau i’r bachgen a’r eneth a lwyddodd i ennill y nifer mwyaf o bwyntiau yn y Mabolgampau eleni. Da iawn chi.
------------------------------------------------------------------
Seren!
![]() |
Llongyfarchiadau i’r ferch ifanc yma am gael ei henwebu i fod yn ddisgybl sy’n haeddu canmoliaeth brwd am ei hymdrech ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol. Da iawn ti- tipyn o gamp!
------------------------------------------------------------------
Mabolgampau a Gala Nofio
![]() |
Llongyfarchiadau i Peris am eu llwyddiant eleni- tipyn o blant talentog yn y ty hwnnw!!
------------------------------------------------------------------
Gala Nofio
![]() |
Dyma’r disgyblion a sgoriodd y nifer mwyaf o bwyntiau eleni- yr oedd 3 geneth yn rhannu’r clod y tro hwn. Braf yw gweld cymaint o ddisgyblion iau yr ysgol yn nofio yn hyderus.
------------------------------------------------------------------
Presenoldeb Llawn
Llongyfarchiadau i’r disgyblion hyn am lwyddo i ennill presenoldeb llawn yn 2017-8- tipyn o gamp.
------------------------------------------------------------------
Ysgol ECO - Gwasanaeth Blwyddyn 4
Dyma wasanaeth Blwyddyn 4 - Gwneud Byd Gwyrdd drwy wneud y pethau bychain - clliciwch yma
------------------------------------------------------------------
Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen
![]() |
Bu disgyblion yr Adran Iau i ddiwrnod y plant yn yr Eisteddfod yn ddiweddar. Bu iddynt fwynhau y parti i ddatthlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 mlwydd oed a chawsant fodd i fyw yn gweld a chlywed yr holl berfformiadau rhyngwladol yn ystod y dydd.
------------------------------------------------------------------
Ysgol Eco/Garddio
![]() |
Bu gwaith caled unwaith eto yn ardd yr ysgol un bore Sadwrn gyda llu o rieni a disgyblion yn barod iawn i chwynnu a chlirio a hyd yn oed peintio yn ystod y bore- diolch o galon i bawb am eu cymorth unwaith eto - yn enwedig y disgyblion a chyn-ddisgyblion a fu wrthi’n peintio’r tŷ bach twt! Mae’r ardd yn datblygu’n dda!
------------------------------------------------------------------
Diolch
Dymuna staff, rhieni, a phlant yr ysgol ddiolch i’r Parchedig John Pritchard am ei wasanaeth fel aelod o Gorff Llywodraethol yr ysgol a hynny ers blynyddoedd maith. Mae’r ysgol wedi elwa’n fawr o’i wasanaeth ac wedi elwa o’i ddoethineb, ar sawl achlysur. Dymunwn y gorau i’r Parchedig a’r teulu, gan ddiolch iddo eto am ei gefnogaeth a’i ymroddiad i Ysgol Dolbadarn.
------------------------------------------------------------------
Ffair Hâf
![]() |
![]() |
![]() |
Trefnwyd noson o weithgareddau a stondinau yn y Ganolfan yn ddiweddar- a gwnaethpwyd elw da i’r ysgol gan fod Judith Fisher o fanc Santander wedi cynorthywo Cyfeillion yr ysgol i ddyblu’r elw hwnnw hyd at £1000. Bydd y cymorth ariannol hwn yn sicr o fod yn ddefnyddiol i’r ysgol ar gyfer y flwyddyn addysgol newydd. Diolch eto i bwyllgor y Ganolfan am bob haelioni yn ystod y flwyddyn wrth gefnogi’r Cyfeillion wrth eu gwaith.
------------------------------------------------------------------
Rheilffordd Yr Wyddfa
Cafodd ddisgyblion Blwyddyn 5+6 daith arbennig i’r caffi ar y copa yn ddiweddar a hynny am ddim! Diolch o galon i’r Cynghorydd Kevin Jones am drefnu hyn. Cafodd pob un plentyn fag o nwyddau er mwyn cofio’r daith yn ogystal – diolch o galon i’r Rheilffordd am fod mor hael gyda’r ysgol.
------------------------------------------------------------------
Theatr Bara Caws:Bwystfilod
Cafodd ddisgyblion Blynyddoedd 2+3 sioe arbennig yn yr ysgol yn ddiweddar sef sioe Bwystfilod gan Bara Caws. Yr oedd y plant wedi mwynhau y perfformiad yn fawr a bu iddynt fwynhau cael gwneud y pypedau mewn gweithdy wedyn. Pob hwyl i’r camni wrth fynd ar daith.
------------------------------------------------------------------
Ffarwelio
Byddem yn ffarwelio gyda Miss Glenda yn tymor hwn ar ôl ei chyfnod ar secondiad i’r Tîm Ymestyn Allan. Bu chwith mawr i’r ysgol hebddi a dymunwn y gorau iddi hi a’r teulu i’r dyfodol. Diolch yn fawr iawn Miss Glenda am bopeth- dwi’n siwr na fyddwch yn ddiethr a bydd croeso pob amser yn Ysgol Dolbadarn.
Dymunwn y gorau i ddisgyblion Blwyddyn 6 a fydd y nein gadael y tymor hwn. Mae wedi bod yn bleser pur eu dysgu- criw arbennig o 15 o enethod a 3 bachgen. Diolch i bob un ohonynt am eu hymroddiad i bob agwedd o fywyd yr ysgol. Dymuniadau arbennig i deulu Maddie Hayward a fydd yn dychwelyd yn ôl i Awstralia wedi tair mlynedd yn yr ysgol. Bydd croeso arbennig iddynt yn yr ysgol ar ôl llwyddiant arbennig i ddysgu’r Gymraeg yn ystod y cyfnod byr hwn.
------------------------------------------------------------------
Rocio’r Wyddfa 2017
Bu disgyblion y cor yn perfformio yn nigwyddiad Snowdon Rocks (Awyr Las) yn ddiweddar- dyma ddetholiad o'u caneuon sef cymysgedd o emynau traddodiadol cymreig a chaneuon yr Eisteddfod. Bu iddynt ganu yr hen ffefryn 'Safwn Yn y Bwlch' gan hogia'r Wyddfa hefyd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth ar y diwrnod.
I weld fideos - cliciwch yma
------------------------------------------------------------------
Cerddoriaeth Yr Wythnos
![]() |
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
Cliciwch yma i weld lluniau artistiaid
------------------------------------------------------------------
Hyrwyddo Hylendid
![]() |
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
------------------------------------------------------------------
Gardd Yr Ysgol
![]() |
Cafwyd noson arbennig iawn er mwyn datblygu gardd yr ysgol yn ddiweddar. Daeth llu o rieni a ffrindiau yr ysgol ynghyd â staff yr ysgol a disgyblion at ei gilydd er mwyn cychwyn ar y gwaith o balu a chwynnu yr ardd. Mae rhan o fuarth yr Adran Iau wedi ei ddatblygu yn barod gyda chywaith peillio Blwyddyn 4 yn ogystal a’u gwaith Creadigol ar y cyd â’r Cyngor Celfyddydau. Hoffem ddiolch i Mr Emyr Jones am ei waith caled o adeiladu ffens yn yr ardd a chynghori’r ysgol ynghylch materion garddio. Mae cwmniau lleol hefyd wedi cyfrannu yn hael tuag at yr achos gan gynnwys Pete’s Eats a Spar Llanberis.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
Ras Hwyaid
Diolch i bawb am eu cyfraniadau tuag at y ras hwyaid yn ddiweddar- gwnaethpwyd elw i’r ysgol o dros £1000 o bunnoedd a fydd o gymorth wrth ariannu gweithgareddau yr ysgol yn y dyfodol agos. Diolch arbennig i’r Rhieni a Chyfeillion yr ysgol am y gwaith trefnu.
------------------------------------------------------------------
Eisteddfod Yr Urdd
Bu i’r parti deulais gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar- nid oedd llwyddiant y tro hwn ond mae’r ysgol yn ymfalchio yn fawr yn ymdrech ac agwedd y disgyblion. Diolch i’r rhieni am eu cefnogaeth unwaith eto.------------------------------------------------------------------
Chwaraeon
![]() |
Bu gêm bêl-droed arbennig ar Gae’r Ddôl yn ddiweddar rhwng Ysgol Dolbadarn ag Ysgol Gwaun Gynfi. Yr oedd yn gêm gyffrous a phawb wedi mwynhau. Diolch i Ben Davies ( cyn-ddisgybl) am ei waith arbennig o ddyfarnu’r gêm.
------------------------------------------------------------------
Caer Gylchu
![]() |
Bu disgyblion Blwyddyn 2 ar ymweliad arbennig i Gaergylchu fel rhan o’u hastudiaethau ar yr amgylchedd yn ddiweddar. Cawsant groeso arbennig ac yr oeddynt yn awyddus i rannu eu profiadau ar ôl dychwelyd.
------------------------------------------------------------------
Hyrwyddo Hylendid Ysgol Iach
Fel rhan o ymgyrch Cam 5 Ysgolion Iach Gwynedd eleni, mae’r ysgol yn atgoffa disgyblion o bwysigrwydd golchi dwylo a glanhau dannedd yn ogystal ag arferion da o fwyta’n iach, yfed dŵr a chael digon o gwsg.
------------------------------------------------------------------
Athletau’r Urdd
Llongyfarchiadau i’r unigolion a fu’n cynrychioli’r ysgol yn ddiweddar- mae sawl disgybl wedi cael llwyddiant a byddent yn cystadlu yn y rownd derfynol ym Mharc Eirias yn fuan.------------------------------------------------------------------
Glan Llyn
![]() |
Teithiodd 16 o ddisgyblion yr Urdd i lan Llyn yn ddiweddar- cawsant brofiadau arbennig gan gynnwys rhwyfo, dringo a bowlio deg yn ogystal â gwneud ffrinidiau newydd o ysgolion eraill Eryri. Braf oedd clywed pawb yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd yn ystod y penwythnos.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
Hylendid
![]() |
Fel rhan o waith yr ysgol ar ddatblygu agweddau iach – lluniwyd pamffled i rieni i hyrwyddo syniadau’r ysgol.
Dyma luniau o blant yn defnyddio’r peiriant germau UV- ych a fi!!!
------------------------------------------------------------------
CERDDORIAETH CYMRU
Fel rhan o waith yr ysgol ar y Siarter Iaith eleni- bwriedir chwarae cerddoriaeth Cymraeg ym mhob dosbarth. Byddem yn dilyn trefn yr wyddor a bydd aelodau y cyngor yn ein cynorthywo i ddewis caneuon. Yr ydym wedi mwynhau gwrando ar Alun Tan Lan, Bryn Fon a Chandelas hyd yma.------------------------------------------------------------------
Gweithgareddau Awyr Agored
![]() |
Bu disgyblion Blwyddyn 3 yn dringo yn ardal Brynrefail yn ddiweddar a chawsant gyfle i gerdded adref drwy’r chwarel. Hoffem ddiolch i rieni a fu yn ein cynorthywo ar y diwrnod ( yn wirfoddol)– cawsom ddiwrnod arbennig yn gwerthfawrogi yr ardal leol.
Bydd Blwyddyn 4 yn dringo Moel Eilio
Blwyddyn 5 yn caiacio ar llyn Padarn
Blwyddyn 6 yn dringo’r Wyddfa.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
Chwarel Dinorwig
![]() |
Bu Blwyddyn 3 a 4 ar daith arbennig i Chwarel Dinorwig a Vivian yn ddiweddar er mwyn dysgu mwy am y cyfnod a hefyd deal yr effaith a gafodd cau y chwarel ar yr ardal leol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
------------------------------------------------------------------
Gardd Ysgol Dolbadarn - Diolch
![]() |
Cliciwch yma i weld y poster |
------------------------------------------------------------------
Coleg Y Bala - Hanes Y Pasg
![]() |
Bu disgyblion Blwyddyn 5+6 ar daith arbennig yn ddiweddar er mwyn dysgu mwy am hanes y Pasg. Diolch yn fawr i staff y Coleg am ddiwrnod arbennig iawn y bydd yn disgyblion yn sicr o’i gofio. |
------------------------------------------------------------------
Ysgol Eco
------------------------------------------------------------------
Ffarwelio
Bydd Miss Ceri Ffion Davies yn gadael yr ysgol ac yn cychwyn yn Ysgol Treferthyr Criccieth ar ôl y Pasg- diolchwn iddi am ei gwaith caled gyda disgyblion Blwyddyn 3. |
------------------------------------------------------------------
Dringo
------------------------------------------------------------------
Chwedlau
------------------------------------------------------------------
Caerdydd
![]() |
Bu disgyblion Blwyddyn 5+6 yn ddigon ffodus i gael ymweld â Chaerdydd yn ddiweddar gan flasu gwibdiath o’r Big Pit, Bae Caerdydd, San Ffagan a hefyd cyfle i brofi yr hyn sydd yn digwydd yn y Senedd. Diolch i Siân Gwenllian am eu croesawu ar y diwrnod. Yr oedd sawl un yn flinedig iawn yn dychwelyd i Lanberis ond yn sicr wedi cael profiadau gwerthfawr iawn. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Diwrnod Y Llyfr
![]() |
![]() |
Dyma rai o’r cymeriadau difyr y bu’n mynychu’r ysgol ar y diwrnod arbennig hwn!
------------------------------------------------------------------
Wythnos Cymru Cwl
![]() |
Yr oedd pawb yn brysur iawn yn ystod Cymru Cwl eleni- dyma enghreifftiau o weithgareddau pob dosbarth. Taflen Gweithgareddau Cymru Cwl - cliciwch yma |
------------------------------------------------------------------
Awdur- Llyr Titus
------------------------------------------------------------------
Eisteddfod Yr Urdd 2017
Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n cystadlu yn yr Eisteddfod Cylch yn ddiweddar. Bu llwyddiant i’r côr a pharti deulais a bu i Caio Bl 5(llefaru unigol) a Chloe a Bella ar y ddeuawd ddod yn ail. Diolch i holl blant yr Urdd a’u rhieni am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth eleni.
------------------------------------------------------------------
Diolch
Hoffai’r ysgol ddiolch i Andrew Settatree am ei waith yn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a dymunwn y gorau iddo yn ei swydd newydd.
Diolch hefyd i gôr Dyffryn Peris am eu rhodd caredig i’r ysgol yn dilyn eu cyngerdd Nadolig Blynyddol- bydd y rhodd hwn yn cael ei ddefnyddio tuag at weithgareddau côr yr Ysgol yn y dyfodol.
------------------------------------------------------------------
Presenoldeb
![]() |
Mae gwella presenoldeb yr ysgol yn flaenoriaeth eleni- dyma rai o ddisgyblion Blwyddyn 2 yn arddangos eu tystysgrifau presenoldeb llawn am yr hanner tymor – da aiwn chi blant! Dewch i ddarllen pamffled presenoldeb y swyddogion Presenoldeb |
------------------------------------------------------------------
Gwobrau Arbennig
Llwyddodd un plentyn ym mhob dosbarth i ennill gwobr arbennig ar ddiwedd yr hanner tymor sef gwobrau am nodweddion arbennig megis cyfeillgarwch, haelioni, caredigrwydd ac ymdrech. Da iawn chi blant- dyma enwebiad arbennig yn wir.
------------------------------------------------------------------
PC Dylan
![]() |
Daeth PC Dylan atom eto y tymor hwn er mwyn trafod cyfeillgarwch a diogelwch ar y we- diolch iddo am ei gwmni. |
------------------------------------------------------------------
Ffair Lyfrau
------------------------------------------------------------------
Siarter Iaith
Mae’r ysgol yn ymfalchio yn fawr yn y ffaith ei bod wedi derbyn achrediad Aur ar gyfer y Siarter Iaith. Mae’r llwyddiant hyn yn adlewyrchu gwaith caled y staff, rhieni ac yn holl-bwysig y disgyblion wrth ymdrechu i gadw ymwybyddiaeth y disgyblion o’r iaith a diwylliant Cymreig yn flaenoriaeth. Bydd rhaid parhau i ymdrechu er mwyn cadw y Wobr Aur y tro nesaf hefyd.
------------------------------------------------------------------
Ysgol Eco- ‘Gwneud y pethau bychain i greu Byd gwyrdd’
Mae datblygiadau ar droed er mwyn sefydlu statws Ysgol Eco i’r ysgol ar y cyd â chynllun polineiddio a chynllun Tesco Bags of Help. Mae’r ysgol hefyd wedi ysgrifennu at gwmniau a busnesion lleol er mwyn codi nawdd i ddatblygu’r ardd. Mae £500 wedi ei dderbyn eisioes gan Magnox a £150 gan Chwarel Penrhyn. Mae’r ysgol yn gweithredu fel Ysgol Arweiniol Creadigol eleni a mae un dosbarth yn cyd-weithio gydag artistiaid er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn yr amgylchedd. Hoffai’r ysgol ddiolch i garfan weithgar iawn o rieni ac Anna Williams o’r Ymddiriedolaeth Natur am eu hymdrechion di-flino yn hyn o beth.
Mae clwb garddio wedi ei seflydlu yn yr ysgol a mae’r plant yn brysur iawn yn chwynnu a phlannu ar hyn o bryd er mwyn do dag ychydig o liw i’r ddau fuarth erbyn yr Haf.
------------------------------------------------------------------
Llwybrau Llechi
Bu disgyblion Blwyddyn 6 yn rhan o gynllun Llwybrau Llechi ar y cyd ag ysgolion eraill mewn ardaloedd diwydiant llechi megis Ysgol Llanllechid. Cafodd y plant gyfel i droedio rhan o’r llwybr llechi yng nghwmni Anita Daimond a’r artist Jwls Williams. Lawnsiwyd y cyfan mewn gweithdy arbennig yn yr Amgueddfa Lechi yn ddiweddar. Yr oedd yn braf iawn gweld disgyblion yr ysgol yn ymddiddori yn hanes yr ardal leol.
------------------------------------------------------------------
![]() |
Dyma ddisgyblion Blwyddyn 1 yn trafod diogelwch efo PC Dylan. |
--------------------------
Gwaith Campus Blwyddyn 3
Dewch i weld gwaith campus Blwyddyn 3 gan gynnwys Dawns Y Blodau yn Eisteddfod Brynrefail - cliciwch yma
------------------------------------------------------------------
Elusennau:
Cafwyd sawl gweithgaredd i godi arian tuag at elusennau eleni ga gynnwys Plant Mewn Angen(£300) Cymdeithas Alzheimer’s (£187) a rhodd tuag at ysgol y Nepal(£200). Gwisgwyd siwmperi Nadolig hefyd er mwyn codi nawdd tuag at Save The Children.
------------------------------------------------------------------
Dawns:
![]() |
------------------------------------------------------------------
Gwobr arbennig:
![]() |
Yn ystod gwasnaeth olaf y tymor, rhoddwyd gwobr arbennig i un disgybl o bob dosbarth am ddangos nodwedd arbennig megis cyfeillgarwch, ymdrech neu gwrteisi arbennig. Enwebwyd y rhai buddugol gan yr athrawon a chyflwynwyd dystysgrifau arbennig i'r plant. Llongyfrachiadau mawr i bob un ohonoch.
------------------------------------------------------------------
Newyddion 2017 - cliciwch yma
Newyddion 2016 - cliciwch yma
Newyddion 2015 - cliciwch yma
Newyddion 2014 - cliciwch yma
Newyddion 2013 - cliciwch yma
Newyddion 2012 - cliciwch yma
Newyddion 2011 - cliciwch yma
Newyddion 2010 - cliciwch yma