Yr Urdd |
Mae croeso i bawb o'r Adran Iau ymuno yn Yr Urdd
Eisteddfod yr Urdd 2012
Llongyfarchiadau i’r plant ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Cylch. Braf oedd gweld Tomos Mabon Pritchard a Deio Llwyd Roberts yn cystadlu ar yr unawdau. Pob lwc i’r Gân Actol, y Parti Llefaru a’r Côr yn yr Eisteddfod Sir.
-----------------------------
Diogelwch Tân
| Cafodd yr adran iau ymweliad gan Gwawr sef swyddog diogelwch tân. Cafodd y plant gyfle i wisgo dillad arbennig a sgwrs hynod o ddiddorol gan Gwawr am ddiogelwch tân yn y cartref. |
---------------------------------------------------------------
Rimbojam yr Urdd
Dyma lun o blentyn Blwyddyn 3 yn ystod Rimbojam yr Urdd yn Ysgol Brynrefail yn ddiweddar.
---------------------------------------------------------------
Bu i sesiynau Mistar Urdd gychwyn ar Hydref 31 i ddisgyblion Blwyddyn 1+2 rhwng 2.45 a 3.45. Mae llawer o weithgareddau wedi eu paratoi ar eich cyfer.
Bu i’r adran Iau fwynhau ei seswin gyntaf o Bingo - diolch i bawb fu’n cynorthwyo
---------------------------------------------------------------
Trawsgwlad yr Urdd
Bu'r disgyblion yma yn rhedeg yng nghystadleuaeth trawsgwlad yr Urdd ar Stad y Faenol.

---------------------------------------------------------------
Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod Eryri 2012/Taith Gerdded Cylch Arfon
Cliciwch yma i weld lluniau’r daith gerdded
Cliciwch yma i weld lluniau’r Wyl Cyhoeddi
---------------------------------------------------------------
Celf a Chrefft yr Urdd
Mae’r disgyblion wedi bod yn brysur yn paratoi gwaith celf a chrefft ar gyfer yr Urdd.
---------------------------------------------------------------
Eisteddfod Cylch Arfon 2011
Bu’r digyblion yn cymryd rhan yn Eisteddfod Cylch Arfon yn Ysgol Brynrefail.
Cafodd yr unigolion, parti canu a’r parti llefaru hwyl yn paratoi ar gyfer y diwrnod. Diolch i’r athrawon a fu yn eu hyfforddi.
---------------------------------------------------------------
![]() |
Rydym wedi cael nifer o aelodau newydd y flwyddyn yma. Mae pawb yn edrych ymlaen ar gyfer yr amrywiaeth o weithgareddau. |
Cliciwch yma i weld beth sy'n digwydd yn yr Urdd Ardal Eryri.
---------------------------------------------------------------
Mabolgampau’r Urdd 2010
Bu rai o’r aelodau yn cymryd rhan ym mabolgampau cylch Arfon.
![]() |
![]() |
| Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Cafodd y parti recorders yr ail safle yn yr Eisteddfod Sir ym Mangor. |
Llongyfarchiadau i’r disgyblion yma a fu’n rhedeg yng nghystadleuaeth trawsgwlad yr Urdd ar Stad y Faenol. |
![]() |
![]() |
| Dyma aelodau'r Urdd a fu'n cymryd rhan yn Gala Nofio Eryri ym mhwll nofio Bangor. |
Dyma'r tim pel rwyd a fu'n cystadlu yn nhwrnament pel rwyd ym Mhlas Silyn, Penygroes. |
![]() |
Dyma ddwy eneth yn edrych yn hapus iawn ar ôl bod ar gwrs preswyl marchogaeth yn Llangrannog. |
Mwy o luniau o weithgareddau yr Urdd
















