Ymwelwyr |
Trefnu i ymweld
Os ydych yn dymuno ymweld â’r ysgol neu drafod unrhyw fater cysylltwch â ni i drefnu dyddiad ac amser. Byddwn yn hapus iawn i’ch gweld.
| AMSER YSGOL | ||
| Oriau’r ysgol yw: | 8.45 am - 3.00 pm | |
| Oriau’r Dosbarth Meithrin | 8.45 am – 10.45 am | 12.45 pm – 2.45pm |
| Oriau’r Dosbarthiadau Babanod | 8.45 am - 2.45 pm | |
| Egwyl Cinio’r Babanod | 11.45 am - 12.45 pm | |
| Oriau’r Dosbarthiadau Iau | 8.45 am - 3.00 pm | |
| Egwyl Cinio’r Dosbarthiadau Iau | 12.00 pm - 12.45 pm |
Ceir system ddiogelwch ar ddrysau’r ysgol ac felly maent ar glo yn ystod amser gwersi. Golyga hyn bod yn rhaid i bawb – gan gynnwys disgyblion sy’n cyrraedd yn hwyr – ganu gloch y prif ddrws i gael mynediad.
Ni chaniateir dod â cheir i fyny o’r adwy at yr ysgol rhwng 8.30am a 9.00am, 10.40am a 11.00am, 12.35pm a 12.55pm a rhwng 2.30pm a 3.10pm.




