Ysgol Werdd |
Mae Ysgol Dolbadarn wedi ennill y wobr arian.
Rydym nawr yn mynd am y wobr aur!
Arbed Ynni
Y WobrAur
Rydym wedi llwyddo i ennill y wobr efydd ac arian ac yn awr rydym yn barod i weithio tuag at y wobr aur!
Beth ydi Cynllun Ysgolion Gwyrdd?
Mae Cynllun Ysgolion Gwyrdd Gwynedd a Môn yn gynllun unigryw ac arloesol i warchod yr amgylchedd leol a byd eang. Mae tri cam a lefel archedu i’r cynllun,sef efydd, arian ac aur a bydd tystysgrif a gwobr yn cael ei gyflwyno i’r ysgol os y llwyddir.
Prif nod y cynllun yw darparu fframwaith er mwyn cynorthwyo ysgolion i fabwysiadu polisiau gweithgareddau fydd yn gwarchod yr amgylchedd fel rhan ganolog o fywyd beunyddiol yr ysgol.
Bydd siarter yn cael ei rhoi mewn lle canolog yn yr ysgol a fydd yn dangos y nodau a chanllawiau. Bydd y grwp gwyrdd yn cyfarfod pob tymor i drafod holl faterion gwyrdd yr ysgol.
Dyma rhai o’r pethau yr ydym yn fwriadu ei wneud y flwyddyn yma;-
• Lleihau’r ynni a ddefnyddir gan yr ysgol– defnyddio offer’OWL’ i fonitro’r defnydd o drydan yn yr ysgol
• parhau i ail-gylchu
• cynnal siop ffeirio
• monitro’r tywydd yn Llanberis
• astudio bywyd gwyllt yr ardal
• plannu
• hybu plant i deithio ar droed yn lle defnyddio car
• casglu arian at achos dda
![]() |
Dyma gynrychiolwyr Grwp Gwyrdd Yr Ysgol. Bydd y disgyblion hyn yn derbyn hyfforddiant ar sut i fonitro y defnydd o ynni yn yr ysgol gan swyddogion y Cyngor. |
Swyddogion Grwp Gwyrdd
Dyma swyddogion y grwp gwyrdd eleni:
| BLWYDDYN 3 | MELODY + JAC |
| BLWYDDYN 4 | ELIN + FLOYD |
| BLWYDDYN 5 | JESSICA+ BEN |
| BLWYDDYN 6 | SION + CARA |
-------------------------------------------------------------------
Aeth Blwyddyn 5 a 6 ar ymweliad i RSPB Conwy. Cafwyd diwrnod diddorol yn archwilio pyllau dwr, darganfod trychfilod bychain a gwylio adar.....
Rydym wedi bod yn brysur yn plannu .........
Cawsom gyfle i ddysgu am y moroedd ..........






