Menter ryngwladol yw'r rhaglen Eco-Ysgolion sy'n annog disgyblion i gymryd rhan mewn materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy. Mae'n cynnig system hynod strwythurol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol o ysgolion gan ganolbwyntio ar Ysbwriel, Lleihau Gwastraff, Cludiant, Byw'n Iach, Ynni, Dŵr, Tir yr Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Rydym fel ysgol yn annog teithiau iachus Ysgol Sustrans i’r ysgol boed yn gerdded, feicio neu sgwtera. Mae gennym lochesi penodol yng nghefn yr ysgol ar gyfer storio beics/ sgwteri. Cynhelir ymgyrchodd cenedlaethol Stroliwch a Roliwch a Cerdded i’r ysgol yn gyson.
Amcanion y grwp yw grymuso ac ysbrydoli ein disgyblion i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i'r ysgol a’r gymuned ehangach yn Nyffryn Peris.
Eco cod Ysgol Dolbadarn: "Creu Byd Gwyrdd Drwy Wneud y Pethau Bychain"